Puri
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith Orissa yn India yw Puri (ynganer: pŵ-ri). Fe'i lleolir ar lan Bae Bengal yn nwyrain India. Mae'n ganolfan grefyddol ac yn ganolfan gwyliau glan môr gyda thraethau da. Poblogaeth: tua 157,610 (2001).
Mae Puri yn enwog fel canolfan addoliad y duw Jagannatha. Bob blwyddyn mae'r Rath Yaga yn gorymdeithio trwy strydoedd y ddinas gan ddenu miloedd lawer o addolwyr o bob rhan o India a'r byd Hindwaidd. Tynnir tri cherbyd gyda delweddau Jagannatha a'i frawd Balarama a'i chwaer Subadra gan griw o dros bedair mil o addolwyr. Cerbyd Jagannatha yw'r mwyaf a dyma darddiad y gair Saesneg juggernaut.
Mae lleoedd cyfagos yn cynnwys dinas Bhubaneswar, prifddinas Orissa, a Konarak, safle teml hynafol enwog ar y traeth ar lan Bae Bengal.
Teml Jagannatha, Puri, gyda cherbydau'r Rath Yatra yn barod i gychwyn
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: