Pura Wallia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pura Walia)

Term a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol am yr ardal frodorol Gymreig cyn ac ar ôl goresgyniad 1282 oedd Pura Wallia (Lladin: "Cymru bur (neu ddiledryw)"; gweler hefyd Gwalia). Gelwid y rhan arall o Gymru, sef yr ardaloedd lled-ffiwdal ym meddiant Arglwyddi'r Mers, yn Marchie Wallie.

Roedd Pura Wallia yn cynnwys y tiriogaethau ym meddiant y tywysogion Cymreig a'u cynghreiriaid, sef yn fras Gwynedd, Powys (ond collwyd y rhannau dwyreiniol yn raddol i Arglwyddi'r Mers) a Deheubarth.

Amrywiai'r ffiniau answyddogol yn ôl troeon hanes y cyfnod, ond dyma, fwy neu lai, yr ardal fel yr oedd ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru gan y Saeson yn 1282-3:

Diflanodd y term yn swyddogol gyda phasio'r Deddfau Uno (1536-42), ond mae rhai hanweswyr a daearyddwyr yn defnyddio'r term heddiw am y rhannau o'r wlad sy'n bennaf Gymraeg ei hiaith ac sy'n dal i gyfateb yn fras i'r diriogaeth hanesyddol gyda'r ardaloedd mwy Saesneg a Seisnigaidd ar hyd y Gororau ac ar hyd arfordir y de i dde Sir Benfro yn cyfateb i'r Mers.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]