Puncak Jaya
Oddi ar Wicipedia
| Puncak Jaya Mynyddoedd Sudirman |
|
|---|---|
| Llun | Copa Puncak Jaya |
| Uchder | 4,884m |
| Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
| Gwlad | Indonesia |
Mynydd uchaf Indonesia a chopa uchaf Oceania yw Puncak Jaya. Gydag uchder o 4,884 medr, ef yuw'r mynydd uchaf rhwng yr Himalaya a'r Andes, a'r copa uchaf ar ynys.
Saif y mynydd ym Mynyddoedd Sudirman yn nhalaith Papua ar ynys Guinea Newydd. Gerllaw, mae cloddfa aur fwyaf y byd, Cloddfa Grasberg. Enw gwreiddiol y mynydd oedd Pyramid Carstenz, ar ôl y fforiwr Iseldiraidd Jan Carstensz, a'i disgrifiodd yn 1623. Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf yn 1962, gan dîm o ddringwyr oedd yn cynnwys Heinrich Harrer.
Mae'n un o'r Saith Copa, sef copaon uchaf pob cyfandir. Ystyrir ef yn un o'r anoddaf yn dechnegol o'r saith copa i'w ddringo.