Protestiadau yn Yemen, 2011

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y brotest ym Mhrifysgol Sana'a ble gwelwyd cannoedd yn Chwefror, miloedd ym Mawrth a channoedd o filoedd erbyn Ebrill 2011.

Yn dilyn cynnau gwreichionen chwyldro Arabaidd Tiwnisia yn Rhagfyr 2011 a Gwanwyn 2011 ymledodd y protestiadau drwy nifer o wledydd y Dwyrain Canol gan gannwys Protestiadau yn Yemen, 2011. Ar yr un pryd gwelwyd chwyldro yn yr Aifft a llefydd eraill. Ar y cychwyn codwyd llais yn erbyn diweithdra, y cyflwr economaidd ac yn erbyn llygredd yn llywodraeth Yemen.[1] Cafwyd protestio hefyd yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid cyfansoddiad Yemen. O fewn dyddiau bron, galwyd am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Ali Abdullah Saleh.

Daeth 16,000 ynghyd yn Sana'a ar 27 Ionawr.[2] Ar yr ail o Chwefror cyhoeddodd y Prifweinidog na fyddai'n aefyll yn yr etholiad nesaf yn 2013 nac yn trosglwyddo'r awennau i'w fab. Ar 3 Chwefror daeth 20,000 ynghyd i wrthwynebu'r llywodraeth yn Sana'a ac eraill yn Aden.[3]

Ar y 18ed o Ebrill 2011 saethwyd 40 o bobl mewn protest heddychlon a saethwyd llawer a oedd yn cymryd rhan mewn protestiadau wedi hynny. Erbyn y 23 Ebrill roedd tri o aelodau seneddol wedi ymddiswyddo oherwydd y saethu. Gwelwyd lluniau ar Al Jazeera o filwyr y wlad yn cyhoeddi eu bont yn ochri gyda'r garfan wrth-lywodraeth. Drennydd, ar y 19eg o Ebrill, cyhoeddodd Ali Abdullah Saleh y byddai'n ymddiswyddo o fewn 30 diwrnod ac y byddai'n galw etholiad o fewn 60 diwrnod. Cafwyd cytundeb na fyddai'n cael ei erlyn am gyn-droseddau.

Ymddiswyddiad Saleh[golygu]

Bu Ali Abdullah Saleh yn Arlywydd Yemen rhwng 1990 a 2012, ac yn Arlywydd Gogledd Yemen rhwng 1978 ac 1990.

Cynhaliwyd etholiad am arlywyddiaeth y wlad ar 21 Chwefror 2012 ac adroddwyd y pleidleisiodd 65% o'r etholwyr. Enillodd Abd Rabbuh Mansur al-Hadi 99.8% o'r bleidlais. Cymerodd y llw yn senedd y wlad ar 25 Chwefror 2012. Dychwelodd y cyn-Brifweinidog adref i fod yn rhan o'r seremoni hwn.[4] Ymddiswyddodd Saleh gan dderbyn yr arlywyddiaeth newydd. Roedd hyn yn garreg filltir bwysig ac yn dod a phennod i ben, ar ôl 33 mlynedd fel Arlywydd.[5]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]