Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr

Oddi ar Wicipedia

Astudiaeth fyd-eang gan y Mudiad dros Gydweithrediad a Datblygiad Economaidd (Organisation for Economic Co-operation and Development) (OECD) o berfformiad addysgol disgyblion 15 mlwydd oed ym meysydd mathemateg, gwyddoniaeth a darllen ydy'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (Programme for International Assessment; PISA). Cafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2000 ac yna pob tair blynedd ers hynny. Caiff yr asesiad ei gynnal gyda'r nod o wella polisïau ac allbynnau addysgol. Gwneir defnydd cynyddol o'r data i asesu dylanwad safonau addysgol ar incwmau a thwf ac er mwyn deall yr hyn sy'n achosi gwahaniaethau ymhlith gwahanol genhedloedd.[1]

Cymrodd 470,000 o ddisgyblion 15 mlwydd oed o 65 o genhedloedd a thiriogaethau ran ym mhrofion PISA yn 2009. Ym mhrofion 2012, cymeroddodd 34 o wledydd OECD ran, a 31 o wledydd eraill, gyda 510,000 o ddisgyblion - 40,000 yn fwy na'r tro cynt.[2][3]

Gwledydd Prydain[golygu | golygu cod]

Ym mhrofion 2009 a 2012 roedd canlyniad y profion yng ngwledydd Prydain ychydig uwch na'r cyfartaledd, gyda gwyddoniaeth yn uwch na mathemateg a darllen.[4] Ceir canlyniadau ar wahân i'r gwledydd hyn a'r canlyniad gwaethaf yn y blynyddoedd hyn oedd mathemateg yng Nghymru, gyda Chymru'n 43ydd allan o 65 gwlad. Yn ôl y Gweinidog Addysg ar y pryd, Huw Lewis, nid oedd ateb sydyn i'r broblem.[5] Nid oes fawr o wahaniaeth rhwng canlyniadau disgyblion ysgolion breifat y DU ac ysgolion awdurdodau lleol, ac roedd y gwahaniaeth rhwng bechgyn a merched mewn darllen yn llai nag yn y rhan fwyaf o wledydd, lle mae'r ferch, ar y cyfan, yn perfformio'n well na'r bechgyn.[4]

Sgorau cymedrig PISA 2009 ar gyfer gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig


Darllen Mathemateg Gwyddoniaeth
Y DU 494 492 514
Lloegr 495 492 515
Yr Alban 500 499 514
Gogledd Iwerddon 499 493 511
Cymru 476 472 496

Cymru[golygu | golygu cod]

Ym mhrofion 2012 mewn mathemateg, daeth Cymru'n 43fed allan o 68 o wledydd, o'i gymharu â 40fed ym mhrofion 2009. Ym maes darllen mae'n 41fed o'i gymharu â 38fed yn 2009. Ac ym maes gwyddoniaeth, mae Cymru wedi disgyn o'r 30ain safle i'r 36ed y tro hwn. Dywedodd pennaeth Pisa, Andreas Schleicher fod y "bwlch rhwng Cymru a rhannau eraill y DU yn arwyddocaol iawn iawn; rydych chi'n siarad am dri chwarter blwyddyn ysgol".

2012[golygu | golygu cod]

Aelodau OECD mewn ffont trwm.
Mathemateg Gwyddoniaeth Darllen
1 Gweriniaeth Pobl Tsieina Shanghai, Tsieina 613
2  Singapôr 573
3  Hong Cong, Tsieina 561
4  Taiwan 560
5  De Corea 554
6  Macau, Tsieina 538
7  Japan 536
8  Liechtenstein 535
9  Y Swistir 531
10  Yr Iseldiroedd 523
11  Estonia 521
12  Y Ffindir 519
13=  Canada 518
13=  Gwlad Pwyl 518
15  Gwlad Belg 515
16  Yr Almaen 514
17  Fietnam 511
18  Awstria 506
19  Awstralia 504
20=  Iwerddon 501
20=  Slofenia 501
22=  Denmarc 500
22=  Seland Newydd 500
24  Y Weriniaeth Tsiec 499
25  Ffrainc 495
26  Y Deyrnas Unedig 494
27  Gwlad yr Iâ 493
28  Latfia 491
29  Lwcsembwrg 490
30  Norwy 489
31  Portiwgal 487
32  Yr Eidal 485
33  Sbaen 484
34=  Russia 482
34=  Slofacia 482
36  Unol Daleithiau America 481
37  Lithwania 479
38  Sweden 478
39  Hwngari 477
40  Croatia 471
41  Israel 466
42  Gwlad Groeg 453
43  Serbia 449
44  Twrci 448
45  Rwmania 445
46  Cyprus 440
47  Bwlgaria 439
48  Emiradau Arabaidd Unedig 434
49  Casachstan 432
50  Gwlad Tai 427
51  Tsile 423
52  Maleisia 421
53  Mecsico 413
54  Montenegro 410
55  Wrwgwái 409
56  Costa Rica 407
57  Albania 394
58  Brasil 391
59=  Yr Ariannin 388
59=  Tiwnisia 388
61  Gwlad Iorddonen 386
62=  Colombia 376
62=  Qatar 376
64  Indonesia 375
65  Periw 368
1 Gweriniaeth Pobl Tsieina Shanghai, Tsieina 580
2  Hong Cong, Tsieina 555
3  Singapôr 551
4  Japan 547
5  Y Ffindir 545
6  Estonia 541
7  De Corea 538
8  Fietnam 528
9  Gwlad Pwyl 526
10=  Liechtenstein 525
10=  Canada 525
12  Yr Almaen 524
13  Taiwan 523
14=  Yr Iseldiroedd 522
14=  Iwerddon 522
16=  Macau, Tsieina 521
16=  Awstralia 521
18  Seland Newydd 516
19  Y Swistir 515
20=  Slofenia 514
20=  Y Deyrnas Unedig 514
22  Y Weriniaeth Tsiec 508
23  Awstria 506
24  Gwlad Belg 505
25  Latfia 502
26  Ffrainc 499
27  Denmarc 498
28  Unol Daleithiau America 497
29=  Sbaen 496
29=  Lithwania 496
31  Norwy 495
32=  Yr Eidal 494
32=  Hwngari 494
34=  Lwcsembwrg 491
34=  Croatia 491
36  Portiwgal 489
37  Russia 486
38  Sweden 485
39  Gwlad yr Iâ 478
40  Slofacia 471
41  Israel 470
42  Gwlad Groeg 467
43  Twrci 463
44  Emiradau Arabaidd Unedig 448
45  Bwlgaria 446
46=  Serbia 445
46=  Tsile 445
48  Gwlad Tai 444
49  Rwmania 439
50  Cyprus 438
51  Costa Rica 429
52  Casachstan 425
53  Maleisia 420
54  Wrwgwái 416
55  Mecsico 415
56  Montenegro 410
57  Gwlad Iorddonen 409
58  Yr Ariannin 406
59  Brasil 405
60  Colombia 399
61  Tiwnisia 398
62  Albania 397
63  Qatar 384
64  Indonesia 382
65  Periw 373
1 Gweriniaeth Pobl Tsieina Shanghai, Tsieina 570
2  Hong Cong, Tsieina 545
3  Singapôr 542
4  Japan 538
5  De Corea 536
6  Y Ffindir 524
7=  Taiwan 523
7=  Canada 523
7=  Iwerddon 523
10  Gwlad Pwyl 518
11=  Liechtenstein 516
11=  Estonia 516
13=  Awstralia 512
13=  Seland Newydd 512
15  Yr Iseldiroedd 511
16=  Macau, Tsieina 509
16=  Y Swistir 509
16=  Gwlad Belg 509
19=  Yr Almaen 508
19=  Fietnam 508
21  Ffrainc 505
22  Norwy 504
23  Y Deyrnas Unedig 499
24  Unol Daleithiau America 498
25  Denmarc 496
26  Y Weriniaeth Tsiec 493
27=  Awstria 490
27=  Yr Eidal 490
29  Latfia 489
30=  Lwcsembwrg 488
30=  Portiwgal 488
30=  Sbaen 488
30=  Hwngari 488
34  Israel 486
35  Croatia 485
36=  Gwlad yr Iâ 483
36=  Sweden 483
38  Slofenia 481
39=  Lithwania 477
39=  Gwlad Groeg 477
41=  Russia 475
41=  Twrci 475
43  Slofacia 463
44  Cyprus 449
45  Serbia 446
46  Emiradau Arabaidd Unedig 442
47=  Gwlad Tai 441
47=  Tsile 441
47=  Costa Rica 441
50  Rwmania 438
51  Bwlgaria 436
52  Mecsico 424
53  Montenegro 422
54  Wrwgwái 411
55  Brasil 410
56  Tiwnisia 404
57  Colombia 403
58  Gwlad Iorddonen 399
59  Maleisia 398
60=  Yr Ariannin 396
60=  Indonesia 396
62  Albania 394
63  Casachstan 393
64  Qatar 388
65  Periw 384


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Llywodraeth Cymru; adalwyd Mehefin 2016
  2. PISA 2012 Results in Focus, OECD, 3 December 2013, http://www.oecd.org/pisa/keyfindings/pisa-2012-results-overview.pdf, adalwyd 4 Rhagfyr 2013
  3. "Programme for International Student Assessment (PISA)". The Council of Ministers of Education, Canada. Cyrchwyd 2016-06-05. Italic or bold markup not allowed in: |website= (help)
  4. 4.0 4.1 Adams, Richard (2013-12-03), UK students stuck in educational doldrums, OECD study finds, The Guardian, http://www.theguardian.com/education/2013/dec/03/uk-students-education-oecd-pisa-report, adalwyd 2013-12-04
  5. Pisa ranks Wales' education the worst in the UK BBC. 3 Rhagfyr 2013. Adalwyd Rhagfyr 2013.