Priordy Trefynwy
| Priordy Trefynwy | |
|---|---|
Y Priordy |
|
| Enwau eraill | Monmouth Priory |
| Gwybodaeth gyffredinol | |
| Math | Priordy Benedictaidd |
| Cyfeiriad | Heol y Priordy |
| Tref neu ddinas | Mynwy |
| Gwlad | Cymru |
| Adferwyd | 2002 |
| Renovating team | |
| Architect | Keith Murray |
Priordy Benedictaidd ger tref Trefynwy yn Sir Fynwy oedd Priordy Trefynwy.
Adeiladodd yr arglwydd Normanaidd William FitzOsbern gastell yn Nhrefynwy tua 1070. Rai blynyddoedd wedyn, rhoddodd y Llydawr Guihenoc o Fynwy yr eglwys a thir o'i chwmpas i Abaty Sant Fflorent ger Saumur yn Ffrainc, Cysegrwyd eglwys y priordy tua 1101 neu 1102. Ar y dechrau, roedd saith mynach a phrior.
Yn 1291, amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £86, ac roedd yn berchen 480 acer o dir. Pan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc, dioddefodd y priordy oherwydd ei fod yn eiddo i abaty Ffrengig. Erbyn diddymiad y mynachlogydd, roedd gwerth y priordy yn £56, ac adroddwyd fod yr eglwys mewn cyflwr gwael iawn. Diddymwyd y priordy yn 1540.
Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).
Gweler hefyd [golygu]
- Wicipedia:Pedia Trefynwy
- Neuadd y Sir, Trefynwy
- Pont Trefynwy
- Priordy Allteuryn
- Priordy Brynbuga
- Priordy Cas-gwent
- Priordy Llanddewi Nant Hodni
- Priordy Trefynwy
- Priordy y Fenni
Llyfryddiaeth [golygu]
- Rod Cooper Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992) ISBN 0-7154-07120