Prifysgol Gwlad y Basg
Oddi ar Wicipedia
| Prifysgol Gwlad y Basg | |
|---|---|
| Euskal Herriko Unibertsitatea Universidad del País Vasco |
|
| Arwyddair | Eman ta zabal zazu |
| Arwyddair yn Gymraeg | Rhowch ac ymestynwch [wybodaeth] |
| Sefydlwyd | 1980 |
| Math | Cyhoeddus |
| Gwaddol | €478 miliwn |
| Rheithor | Iñaki Goirizelaia |
| Myfyrwyr | 50,869 |
| Lleoliad | Bilbao, Vitoria-Gasteiz, San Sebastián, Gwlad y Basg |
| Campws | Trefol |
| Gwefan | http://www.ehu.es |
Prifysgol Gwlad y Basg (Basgeg: Euskal Herriko Unibertsitatea; Sbaeneg: Universidad del País Vasco) yw'r unig brifysgol gyhoeddus yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Mae gan y brifysgol sawl campws ym mhob un o dair talaith y gymuned.
Crewyd Prifysgol Gwlad y Basg yn 1980, pan newidiodd Prifysgol Bilbao ei henw. Yn nhalaith Biskaia, mae campws yn Portugalete, Lejona-Erandio, Bilbo a Barakaldo; yn nhalaith Guipúzcoa yn Donostia (San Sebastián) ac Éibar, ac yn nhalaith Araba yn Vitoria-Gasteiz. Roedd 50.869 o fyfyrwyr yn y flwyddyn academaidd 2005-06.
Gellir astudio 43% o gyrsiau'r brifysgol trwy gyfrwng yr iaith Fasgeg.