Prifysgol Brookes Rhydychen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Prifysgol Brookes Rhydychen
Oxford Brookes University
Logo Prifysgol Brookes Rhydychen.jpg
Logo Prifysgol Brookes Rhydychen
Arwyddair "Excellence in diversity"
Arwyddair yn Gymraeg "Rhagoriaeth mewn amrywiaeth"
Sefydlwyd 1992, o Polytechnic Rhydychen (1970), ond yn wreiddiol o Ysgol Gelf Rhydychen (1865)
Math Cyhoeddus
Canghellor Shami Chakrabarti
Is-ganghellor Athro Janet Beer
Myfyrwyr 19,070[1]
Israddedigion 13,645
Ôlraddedigion 5,120[1]
Myfyrwyr eraill 300 FE[1]
Lleoliad Rhydychen, Baner Lloegr Lloegr
Tadogaethau Universities UK
Association of MBAs
Gwefan http://www.brookes.ac.uk/

Prifysgol fodern yn Rhydychen ydy Prifysgol Brookes Rhydychen (Saesneg: Oxford Brookes University), enwyd ar ôl pennaeth cyntaf y brifysgol, John Brookes. Ni ddylid drysu rhwng y brifygol hon a Prifysgol Rhydychen. Coleg polytechnic oedd Brookes Rhydychen, cyn iddi dderbyn statws prifysgol.

Hanes[golygu]

Mae gwreiddiau Brookes Rhydychen yn mynd yn ôl i 1865, pan adnabyddwyd fel Ysgol Gelf Rhydychen, lleolwyd mewn un ystafell ar lawr gwaelod y Taylor Institution, St. Giles. Ym 1870 cyfunwyd gyda'r Ysgol Wyddoniaeth. Ym 1871 gorfodir i'r ysgol, sydd newydd ei chyfuno, wasgu i fewn i islawr y Taylor Institution, er mwyn gwneud lle i Ysgol Gelf Ruskin. Darparir Labordy Cemeg newydd yn yr Ysgol Wesleyan ym 1888. Ym 1891, caiff ei gymryd drosodd odan weinyddiaeth Pwyllgor Cyfarwyddyd Technegol Cyngor y Dref, a'i ailenwi yn Ysgol Dechnegol Dinas Rhydychen (Oxford City Technical School), a gwnaethpwyd cynlluniau iw ail-leoli i gyn-adeiladau'r Blue Coat School for Boys, St. Ebbes, lle symudont ym 1894. Ond erbyn 1899, roedd yr ysgol wedi tyfy'n gyflym a datganwyd fod yn safle'n anaddas gan yr Adran dros Gwyddoniaeth a Chelf. Gwaharddwyd ymestyn y safle, ond bu i'r ysgol aros yno am 50 mlynedd wedi hyn.[2]

Ym 1934 cyfunwyd Ysgol Gelf Ruskin a'r Ysgol Dechnegol, ac apwyntiwyd John Henry Brookes, Is-bennaeth yr Ysgol Dechnegol yn Bennaeth cyntaf ar y sefydliad newydd. Ailenwyd yn Goleg Technoleg Rhydychen (Oxford College of Technology) ym 1956, a sefydlwyd y neuadd breswyl gyntaf ym 1960 ac aileolwyd y coleg i Headington ym 1963. Ym 1970, daeth yn Polytechnic Rhydychen (Oxford Polytechnic), ac ym 1992, yn dilyn cyflawniad deddf Addysg Uwch a Phellach, ailenwyd yn Brifysgol Brookes Rhydychen.[2][3]

Ym mis Hydref 2003, daeth prifysgol Brookes yn brifysgol cyntaf y byd i ennill statws Masnach Teg.[4] Yn 2007, daeth Brookes yn bumed yn nhabl cyngrhair amgylcheddol newydd prifysgolion, a derbyniodd raddfa dosbarth cyntaf am ei nodweddion amgylcheddol.[5]

Er nad yw'n ran o Brifysgol Rhydychen, mae ymysg yr wyth sefydliad allanol sydd gyda'r hawl iw aelodau ymuno gyda Undeb Rhydychen.[6]

Brookes Rhydychen yw'r wythfed cyflogwr o ran maint yn Swydd Rhydychen, gan gyflenwi 2,500 o swyddi ar draws y brifysgol.[7]

Ysgolion[golygu]

Mae wyth ysgol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen:[8]

  • Ysgol Celf a Dyniaethau
  • Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig
  • Ysgol Fusnes
  • Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Ysgol Gwyddorau Bywyd
  • Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol a'r Gyfraith
  • Ysgol Technoleg
  • Athrofa Addysg Westminster

Astudiaethau arbenigol[golygu]

Gwobrwywyd y Ganolfan ar gyfer Datblygiad ac Ymarfer Argyfwng (The Centre for Development and Emergency Practice, CENDEP), yn Ysgol yr Amgylchedd Adeiledig, Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2001.[9] Mae eu rhaglen adnabyddadwy ymysg ymarferwyr dyngarol. Mae'r CENDEP yn darparu gosodiad academaidd ar gyfer astudiaeth dinasoedd, dyngarwch a ffoaduriaid. Y gantores a'r actifydd Annie Lennox yw noddwr y Cwrs Meistr mewn Ymarferion Dyngarol a Datblygiad ers 2005.[10]

Yn 2007, gwobrwywyd y Meistr Gwyddorau mewn Cadwraeth Primatiaid gyda Gobr Pen-blwydd y Frenhines am gyfraniad amlwg tîm y rhaglen a'r Adran Anthropoleg a Daearyddiaeth.[9]

Mae'r Ysgol Dechnoleg yn adnabyddus yn y maes technoleg a pheirianeg chwaraeon modur. Mae noddwyr pencampwr Formula One y byd, Fernando Alonso, yn darparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr astudio gradd meistr mewn peirianneg chwaraeon modur yn y brifysgol.[11]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]