Prifysgol Bordeaux III
| Prifysgol Bordeaux III | |
|---|---|
| Université Bordeaux III | |
![]() |
|
| Logo'r Brifysgol | |
| Sefydlwyd | 1971 |
| Math | Prifysgol |
| Llywydd | Patrice Brun |
| Staff | 340 |
| Myfyrwyr | 15,600 |
| Lleoliad | Bordeaux, |
| Campws | Domaine universitaire de Talence Pessac Gradignan |
| Gwefan | http://www.u-bordeaux3.fr/ |
Prifysgol Ffrengig ydy Prifysgol Michel de Montaigne Bordeaux III (Ffrangeg: Université Michel de Montaigne Bordeaux III) a leolir ar gyrion Bordeaux, Aquitaine, yn ne-orllewin Ffrainc. Mae'r brifysgol yn un o bum prifysgol sy'n ffurfio cymuned o brifysgolion ardal Aquitaine. Y prif feysydd astudio ydy ieithoedd, hanes, daearyddiaeth a’r celfyddydau. Mae 15,600 fyfyrwyr wedi'u cofrestru yno. Fe'i henwir ar ôl y llenor Michel de Montaigne (1533-92).
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Creadigaeth [golygu]
Crëwyd Prifysgol Bordeaux III ym 1971 ar ôl penderfyniad i wahanu'r brifysgol i mewn i dair rhan. Roedd gwreiddiau'r brifysgol wreiddiol yn hanu'n ôl i'r flwyddyn 1441.
Llywyddion y Brifysgol [golygu]
Cyfansoddiad y Brifysgol [golygu]
Tan 2010, ffurfiwyd y brifysgol yn ôl nifer o UFR (Ffrangeg: Unité de formation et de recherche) (Cymraeg: Uned Addysgu ac Ymchwilio). Dyma oedd y gwahanol UFR: y celfyddydau, astudiaethau Almaenaidd a Llychlynnaidd, astudiaethau Iteraidd ac Ibero-Americanaidd, daearyddiaeth, hanes, hanes celf ac archeoleg, sefydliad gwyddorau cyfathrebiad, ieithoedd tramor ac ieithoedd tramor gymwysedig, gwledydd Saesneg eu hiaith, ac athroniaeth.
Ers Hydref 2010, serch hynny, cwtogwyd y nifer o UFR i dri, sef "Y Dyniaethau," "Ieithoedd a Gwareiddiad," a "Gwyddorau'r tiroedd a chyfathrebiad."[3]
Lleoliad [golygu]
Lleolir y brifysgol a'i holl adnoddau addysgol ym mharth Pessac Talence Gradignan. Mae gwasanaeth dram yn rhedeg i'r brifysgol bob dydd. Llinell B sydd yn mynd i'r brifysgol, a'r orsaf agosaf at y brifysgol yw gorsaf Montaigne Montesquieu.
Mae cangen o'r brifysgol yn nhref Agen yn ogystal.
Arweiniad [golygu]
Arweinydd a Llywydd y brifysgol yw'r bonwr Patrice Brun, athro Hanes Groeg yr Henfyd.
Dirprwyon:
- Jean-Paul Jourdan, athro hanes cyfoes.
- Jean-Yves Coquelin, darlithiwr celf y llwyfan.
- Patrick Baudry, athro cymdeithaseg.
Addysg [golygu]
Cynigir 34 gwahanol radd yn y brifysgol (gyda'r cyfle i arbenigo mewn un neu ddau o 17 gwahanol iaith), 59 meistrolaeth, 26 doethuriaeth, a dysgir 23 o ieithoedd.
Gradd Is-raddedig [golygu]
Gellir astudio gradd yn un o'r meysydd a ganlyn yn Bordeaux 3:
- Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol
- Daearyddiaeth
- Hanes, hanes celf, archeoleg
- Athroniaeth
- Ieithoedd, Llenyddiaeth a Chelfyddydau
- Y Celfyddydau
- Ieithoedd, Llenyddiaeth a Gwareiddiad Estron
- Ieithoedd estron gymwysedig
- Ieithyddiaeth
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Ffrangeg) Patrice BRUN - Educpros.fr. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2010.
- ↑ (Ffrangeg) SINGARAVELOU - Educpros.fr. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2010.
- ↑ (Ffrangeg) Unités de formation, de recherche et départements - Université Bordeaux 3. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2010.
Dolenni allanol [golygu]
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol y Brifysgol
