Prif Arcana

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Siwt o un ar hugain cerdyn mewn pecyn tarot yw'r Prif Arcana neu drympiau. Maent yn debyg i siwt trwmp parhaol mewn gemau a chwaraeir gyda'r pecyn tarot, ac fe'i gwahaniaethu o'r pedwar siwt safonol a elwir yr Arcana Lleiaf. Defnyddir y termau "Prif Arcana" ac "Arcana Lleiaf" mewn mathau ocwltaidd a daroganaethol o'r pecyn, ac yn tarddu gyda Paul Christian.[1]

Mae bob un cerdyn yn dangos golygfa, person, neu sawl pobl fel arfer, gyda llawer yn cynnwys elfennau symbolaidd. Mewn llawer o becynnau, mae gan bob un o'r cardiau rif (fel arfer rhifolion Rhufeinig) ac enw, ond nid oes y ddau gyda phob un pecyn, ac mae gan rhai pecynnau luniau'n unig. Dangosir set gyffredin isod:

Rhif Enw
Dim (0 neu 22) Y Ffŵl
1 Y Swynwr / Y Siwglwr
2 Yr Arch Offeiriades / Y Babes
3 Y Ymerodres
4 Yr Ymerawdwr
5 Y Pab
6 Y Carwyr
7 Y Cerbyd Rhyfel
8 neu 11 Cyfiawnder
9 Y Meudwy
10 Olwyn Ffawd
11 neu 8 Cryfder
12 Y Dyn Crogi / Y Bradwr
13 Marwolaeth
14 Dirwest
15 Y Diafol
16 Y Tŵr / Tân
17 Y Seren
18 Y Lleuad
19 Yr Haul
20 Dyfarniad / Yr Angel
21 Y Byd

Dylanwedir lluniau'r Prif Arcana gyda symbolaeth drom fel arfer, gyda llawer mwy o wybodaeth i'r darluniad na ddarluniad syml sydd ar y cerdyn. Fel arfer, mae gan cardiau'r Prif Arcana fwy o bwyslais ac arwyddocâd dwfn na chardiau'r Arcana Lleiaf, sydd fel arfer yn gysylltiedig â bywyd bob dydd a digwyddiadau cyfagos.

Nodiadau[golygu]

  1. Place, Robert (2005). The Tarot: History, Symbolism, and Divination (yn en)

Dolenni allanol[golygu]

Nodyn:Prif Arcana