Press Gang
| Press Gang | |
|---|---|
Siot sgrîn o deitlau "Press Gang" |
|
| Genre | Dramedi |
| Serennu | Julia Sawalha Dexter Fletcher Lee Ross Kelda Holmes Paul Reynolds Lucy Benjamin Gabrielle Anwar Mmoloki Chrystie Joanna Dukes Charlie Creed-Miles |
| Gwlad/gwladwriaeth | Deyrnas Unedig |
| Iaith/ieithoedd | Saesneg |
| Nifer cyfresi | 5 |
| Nifer penodau | 43 |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 25 munud |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | ITV |
| Darllediad gwreiddiol | 16 Ionawr, 1989 – 21 Mai, 1993 |
Drama-gomedi Saesneg ar gyfer plant oedd Press Gang. Bu pum cyfres ohono a chyfanswm o 43 o raglenni a gafodd eu darlledu rhwng 1989 a 1993. Cafodd ei gynhyrchu gan Richmond Film & Television ar gyfer Central, a chafodd ei ddarlledu ar rwydwaith ITV yn ystod yr oriau teledu plant, Children's ITV.[1]
Anelwyd y rhaglen at blant hŷn ac arddegwyr, a dilynai hynt a helynt criw o ddisgyblion ysgol a oedd yn creu papur newydd i blant, y Junior Gazette, a gynhyrchwyd gan ddisgyblion yr ysgol gyfun leol. Yn y cyfresi dilynol, darluniwyd y papur fel menter mwy masnachol. Cyfunai'r sioe elfennau o gomedi gydag elfennau mwy dramatig. Yn ogystal ag ymdrin â pherthynasau rhyngbersonol (yn benodol perthynas Lynda a Spike), ymdriniai'r sioe â materion fel camddefnydd o gyffuriau, camdriniaeth o blant a defnydd o ynnau.[2]
Ysgrifennwyd y sioe gan gyn-athro, Steven Moffat, a chafodd dros hanner y rhaglenni eu cyfarwyddo gan Bob Spiers, cyfarwyddwr comedi Prydeinig nodedig a oedd wedi gweithio ar gomedïau eraill megis Fawlty Towers. Derbyniodd y sioe feirniadaeth gadarnhaol iawn, yn enwedig am safon y sgript, ac arweiniodd hyn at rhyw fath o statws cwlt i'r sioe.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Press Gang – An episode guide by Matthew Newton.
- ↑ Cornell 1993, t. 215-8