Presaddfed (siambr gladdu)

Oddi ar Wicipedia
Presaddfed (siambr gladdu)
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.299128°N 4.481006°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwAN010 Edit this on Wikidata

Mae Presaddfed yn siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig gerllaw Bodedern ar Ynys Môn. Saif mewn cae heb fod ymhell o Lyn Llywenan.

Mae dwy siambr gladdu, rhyw 1.5 medr oddi wrth ei gilydd. Erbyn hyn mae'r siambr ogleddol yn adfeilion, ond mae meini'r siambr ddeheuol yn parhau yn eu lle. Credir mai ei ffurf wreiddiol oedd dwy siambr gladdu gaeedig wedi eu gorchuddio gan un twmpath, fel yn siambr gladdu Trefignath, ond mae'r twmpath pridd fu o gwmpas y siambrau wedi hen ddiflannu. Mae traddodiad lleol i deulu oedd wedi cael eu troi o'u cartref fyw yn y siambr ddeheuol am gyfnod yn 1801.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif roedd beddrod y gogledd mewn anobaith.

Gellir cyrraedd at y siambr gladdu trwy ddilyn y ffordd B5109 o Fodedern, ac yna troi i'r chwith ar ôl rhyw hanner milltir. Mae lle i adael car wrth ochr y ffordd a llwybr cyhoeddus yn arwain at y siambr.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)

Bodowyr Siamberi Claddu ar Ynys Môn Sbiral triphlyg

Barclodiad y Gawres | Bodowyr | Bryn Celli Ddu | Bryn yr Hen Bobl | Din Dryfol | Llugwy | Pant y Saer | Presaddfed | Trefignath | Tŷ Newydd