Príncipe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad ynys Príncipe

Ynys yng Ngwlff Gini oddi ar arfordir gorllewinol Affrica yw Príncipe. Mae'n rhan o wladwriaeth São Tomé a Príncipe, sydd hefyd yn cynnwys ynys fwy São Tomé. Saif Príncipe i'r gogledd-ddwyrain o São Tomé ac oddi ar arfordir Gabon.

Roedd poblogaeth yr ynys yn 5,255 yn 1991. Y dref fwyaf yw Santo António. Copa uchaf yr ynys yw Pico de Príncipe, 948 medr o uchder.