Cyhyr croth y goes

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Poten)
Cyhyr croth y goes
Enghraifft o'r canlynolset of muscles, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathset of superficial muscles of posterior compartment of leg, endid anatomegol arbennig, cyhyr Edit this on Wikidata
Rhan osuperficial part of posterior compartment of leg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgastrocnemius muscle, soleus muscle Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Croth y goes ddynol - pâr o gyhyrau gwirioneddol angenrheidiol i gerdded a rhedeg

Croth y goes (neu 'poten'; 'calf' yn Saesneg) ydy'r pâr o gyhyrau yng nghefn y goes, o dan y pen-glin. Enwau meddygol y ddau gyhyr yw'r 'gastrocnemius' a'r 'soleus', ac mae enw'r cyntaf o gymorth i egluro'r term Cymraeg, 'croth' a ddefnyddir yma. Ystyr 'gastro-' yw 'bola', ac mae'r elfen 'cnemius' yn deillio o'r gair Groeg am 'coes': 'bola'r goes' felly, yn llythrennol yw 'gastrocnemius', a dyma enw Cymraeg arall ar groth y goes. Mae'r holl enwau hyn yn cyfeirio at y ffaith mai siâp bola, neu groth, sydd i'r rhan hon o'r goes.