Portlaoise

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Prif dref Swydd Laois yng nghanolbarth Gweriniaeth Iwerddon yw Portlaoise (hen ffurf Portlaoighise; hen enw Saesneg: Maryborough). Yn 2006, roedd y boblogaeth yn 14,275.

Tyfodd y dref bresennol o amgylch caer "Fort of Leix" neu "Fort Protector", a adeiladwyd yn 1548 i geisio diogelu rheolaeth Seisnig ar yr ardal. Sefydlwyd y dref ei hun gan fesur seneddol yn 1557, yn ystod teyrnasiad Mari I, brenhines Lloegr, a chafodd yr enw Maryborough. Fe'i gwnaed yn fwrdeisdref yn 1570.

Flag of Ireland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.