Porth India

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Porth India fel y'i gwelir i'r harbwr, 2003.

Cofeb yn Mumbai, yr India ydy Porth India. Fe'i lleolir ar lannau dyfroedd ardal Apollo Bunder yn Ne Mumbai. Bwa basalt yw'r porth sy'n 26 medr neu 85 troedfedd o uchder. Arferai fod yn lanfa cyntefig a ddefnyddiwyd gan bysgotwyr a chafodd ei adnewyddu i fod yn fan glanio ar gyfer llywodraethwyr Prydeinig a phobl nodedig eraill.

Mae dyluniad y gofeb yn gymysgedd o arddulliau pensaernïol Hindwaidd a Mwslemaidd. Mae'r bwa yn arddull Fwslemaidd tra bod yr arddurniadau yn Hindwaidd. Adeiladwyd o Porth o baslat melyn a choncrit sydd wedi'i gryfhau. Carreg leol ydyw, a daeth y sgrîniau tylledig o Gwalior.

Mae'r gromen ganolog yn 15 medr (49 troedfedd) o ran diameter ac mae'r man uchaf 26 medr (85 troedfedd) uwchlaw'r ddaear. Ail-gynlluniwyd blaen yr harbwr er mwyn cyd-redeg ag esplanad arfaethedig a fyddai'n rhedeg o ganol y ddinas. Costiodd Rs. 21 lakhs (2,100,000) i'w adeiladu, ac fe'i ariannwyd gan Lywodraeth yr India yn bennaf. Oherwydd prinder arian, ni adeiladwyd heol yn arwain ato, ac felly saif y Porth ar ongl i'r brif heol.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dwivedi, Sharada; Rahul Mehotra (1995). Mumbai: India Book House. ISBN 818502880X.