Popgorn
Oddi ar Wicipedia
| Popgorn | |
|---|---|
| Popgorn ar y cobyn, wedi'i gynaeafu. | |
| Popgorn wedi'i bopio, yn barod i'w fwyta. | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
| Ddim wedi'i restru: | Monocots |
| Ddim wedi'i restru: | Commelinids |
| Urdd: | Poales |
| Teulu: | Poaceae |
| Genws: | Zea |
| Rhywogaeth: | Z. mays |
| Isrywogaeth: | Z. m. averta |
| Enw trienwol | |
| Zea mays averta |
|
Math o indrawn sy'n ffrwydro o'r cnewyllyn ac yn chwyddo wrth gael ei wresogi yw popgorn. Americanwyr Brodorol oedd y cyntaf i ddarganfod y gellid popio indrawn, a daeth popgorn yn boblogaidd fel byrbryd yn yr Unol Daleithiau yn ystod y Dirwasgiad Mawr, yn enwedig mewn sinemâu.