Poolewe
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Ucheldiroedd yr Alban yw Poolewe (Gaeleg: Poll Iù). Fe'i lleolir yn Wester Ross, tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gairloch. Saif y pentref ar lannau Loch Ewe lle mae Afon Ewe yn llifo i mewn iddo. Gerllaw, mae Gardd Inverewe sy'n enwog am y planhigion is-drofannol sy'n tyfu yn yr hinsawdd fwyn.