Pont Jamuna

Oddi ar Wicipedia
Pont Jamuna
Mathpont Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogolMehefin 1998 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Mehefin 1998 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSirajganj Edit this on Wikidata
SirSirajganj District Edit this on Wikidata
GwladBaner Bangladesh Bangladesh
Cyfesurynnau24.3991°N 89.7853°E Edit this on Wikidata
Hyd4,987 metr Edit this on Wikidata
Map
Deunyddconcrit Edit this on Wikidata

Pont fawr ym Mangladesh sy'n cysylltu gorllewin a dwyrain y wlad yw Pont Jamuna neu Pont Bangabandhu, a elwir weithiau yn Pont Amlbwrpas Jamuna (Bengaleg: যমুনা বহুমুখী সেতু Jomuna Bohumukhi Shetu). Agorwyd y bont ym Mehefin 1998 i gysylltu Bhuapur (Tangail) ar lan ddwyreiniol Afon Jamuna (Afon Brahmaputra) a Sirajganj ar y lan orllewinol. Dyma'r bont 11eg hiraf yn y byd a'r ail hiraf yn Ne Asia (ar ôl Pont Mahatma Gandhi yn India). Mae'n croesi Afon Jamuna, y fwyaf o dair afon fawr Bangladesh.

Lleolir y bont ar Briffordd Asia a'r Rheilffordd Traws-Asia amcaniedig a fydd, pan orffenir y prosiectau hyn, yn cynnig cysylltiad uniongyrchol ar dir rhwng De-ddwyrain Asia a Gogledd Ewrop (ond ar hyn o bryd erys bylchau amlwg yn y rhwydwaith).

Roedd adeiladu'r bont yn brosiect ryngwladol sylweddol gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud gan gwmnïau o Siapan, De Corea a'r Unol Daleithiau. Mae'n cael ei rheoli gan Awdurdod Pontydd Bangladesh.

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Hyd y bont - 4.8 km; lled - 18.5 medr; rhychwantiau - 49; darnau - 1263; pileri - 121; piers - 50; lonydd - 4; traciau rheilffordd - 2? (heb eu cwblhau eto).

Pont Jamuna

Dolen allanol[golygu | golygu cod]