Pont Harbwr Auckland

Oddi ar Wicipedia
Pont Harbwr Auckland
Mathcantilever bridge, pont ffordd, box truss Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol30 Mai 1959 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAuckland Edit this on Wikidata
SirAuckland Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Cyfesurynnau36.8294°S 174.7464°E Edit this on Wikidata
Hyd1,020 metr Edit this on Wikidata
Map
Deunydddur Edit this on Wikidata

Pont draffordd craffrwymau wyth-lôn dros Harbwr Waitemate yw Pont Harbwr Auckland, sy'n cysylltu St Marys Bay yn Ninas Auckland gyda Northcote ar Y Lan Ogleddol. Mae'n ran o State Highway 1 a Thraffordd Ogleddol Auckland ac yn cael ei weithredu gan y New Zealand Transport Agency (NZTA).[1] Dyma'r bont ffordd ail-hiraf yn Seland Newydd a'r hiraf yn Ynys y Gogledd.[2]

Ei hyd yw 1,020 metr (3,348 troedfedd), gyda phrif rhychwant o 243.8 metr, gan godi 43.27 metr uwchben lefel ucha'r dŵr[3] ac felly'n caniatáu mynediad i longau at lanfa dŵr dwfn y Chelsea Sugar Refinery.

Agorwyd y bont yn swyddogol ar 30 Mai 1959 gan Yr Arglwydd Cobham Llywodraethwr-Gyffredinol Seland Newydd.[4]

Adeiladwyd y bont gyda phedair lôn yn unig ar gyfer traffig. Daeth hyn yn annigonol yn dilyn tŵf cyflym maestrefi'r Lan Ogleddol. Yn 1969, ychwanegwyd rhannau rhwymdrawst dwy-lôn ar y naill ochr, gan ddyblu nifer y lonau i wyth. Cynhyrchwyd yr rhannau hyn gan Ishikawajima-Harima Heavy Industries o Siapan, a arweiniodd at y llysenw 'Nippon clip-ons'. Roedd dewis y cwmni'n gam mentrus ar y pryd, llai nag 20 mlynedd ers diwedd Yr Ail Ryfel Byd, gan bod teimladau wrth-Siapaneaidd yn dal i fodoli yn y wlad. [5][6]

Chwifio'r Ddraig Goch[golygu | golygu cod]

Yn 2006, chwifwyd y Ddraig Goch oddi ar y bont i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.[7] Newidiwyd y polisi o chwifio banneri yn 2007 fel mai dim ond banner Seland Newydd fyddai'n cael ei chwifio.[8]

Y bont o'r dwyrain
Y bont yn cael ei hadeiladu

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Auckland Harbour Bridge". NZTA. Cyrchwyd 26 Rhagfyr 2012.
  2. What is the longest bridge in New Zealand? Archifwyd 2008-06-19 yn y Peiriant Wayback. (from the Transit New Zealand FAQ webpage. Retrieved 9 June 2008.)
  3. 1951-1961 The Auckland Harbour Bridge Authority Archifwyd 2007-02-07 yn y Peiriant Wayback. (Auckland Harbour Board publication, 1960s)
  4. Record of 20 Years Activities 1951-1971 - Auckland Harbour Bridge Authority
  5. Bridging the Gap, Slide 15 (from the North Shore City Libraries website. Retrieved 8 June 2008.)
  6. Bridging the Gap, Slide 14 Archifwyd 2008-10-14 yn y Peiriant Wayback. (from the North Shore City Libraries website. Retrieved 8 June 2008.)
  7. Flag of Wales to fly on Auckland Harbour Bridge Archifwyd 2008-10-16 yn y Peiriant Wayback. Datganiad i'r wasg ar wefan New Zealand Transport Agency 26.2.2006. Adalwyd 26.12.2012
  8. Transit changes Harbour Bridge flag policy Archifwyd 2013-05-05 yn y Peiriant Wayback. Datganiad i'r wasg ar wefan New Zealand Transport Agency 29.5.2007. Adalwyd 26.12.2012