Pont Golden Gate
Oddi ar Wicipedia
Pont enwog sy'n croesi Culfor Golden Gate ger San Francisco, California yn yr Unol Daleithiau yw Pont Golden Gate (Saesneg: Golden Gate Bridge).
Mae'n bont grog 1280 m (4,200 troedfedd) o hyd. Cwblhëwyd y gwaith adeiladu yn 1937. Ar y pryd, hon oedd y bont hiraf yn y byd, ond collodd ei safle gydag agor Pont Verrazano-Narrows yn ninas Efrog Newydd yn 1964, sy'n croesi Harbwr Efrog Newydd.
Mae'r bont yn symbol eiconaidd o ddinas San Francisco ac mae i'w gweld mewn sawl golygfa ffilm Hollywood, er enghraifft yn Vertigo (1958) gan Alfred Hitchcock.