Pondi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tŵr Castell Rohan

Tref a Chymuned yn Llydaw yw Pondi (Ffrangeg: Pontivy, Gallo: Pondivi). Saif yn département Mor-Bihan, lle mae dau prif gamlas canolbarth Llydaw yn cyfarfod, Camlas Blavet a Camlas Nantes a Brest. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 13,508.

Sefydlwyd y dref gan y mynach Llydewig Ivy yn y 7fed ganrif, a chafodd yr enw Pond Ivy (pond yw "pont" yn Llydaweg). Adeiladwyd castell yma gan Jean II de Rohan rhwng 1479 a 1485, ar safle castell blaenorol. Newidiwyd yr enw i Napoléonville am gyfnod yn ystod teyrnasiad Napoleon.

Derbyniodd cyngor y dref y siarter iaith Lydewig Ya d’ar brezhoneg yn 2004, ac yn 2007 roedd 11.8% o'r disgyblion ysgol gynradd yn derbyn addysg ddwyieithog. Mae pencadlys Radio Bro-Gwened yma.