Plymio

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Chwaraeon yw Plymio sy'n ymwneud â perfformio acrobateg tra'n neidio neu ddisgyn i ddŵr o blatfform neu ffwrdd-sbring o uchder penodedig. Mae plymio yn chwaraeon a gaiff ei adnabod yn rhyngwladol ac yn cael ei gynnwys yn y Gemau Olympaidd. Mae deifio hefyd yn fath o adloniant anghystadleuol mewn rhai ardaloedd ble mae nofio yn boblogaidd.

Er nad yw'n arbennig o boblogaidd o ran cymryd rhan, mae plymio yn un o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd ymysg y gwylwyr yn y Gemau Olympaidd. Mae'r chwraewyr llwyddiannus yn meddu'r un nodweddion a gymnastwyr a dawnswyr, gan gynnwys cryfder, hyblygrwydd, beirniadaeth kinaesthetic ac ymwybyddiaeth yn yr awyr.

Tŵr plymio Pencampwriaethau Dyfrol Ewrop 2008.

Yn ddiweddar, mae llwyddiant ac amlygrwydd Greg Louganis wedi hybu cryfder Americanaidd yn y chwaraeon yn rhyngwladol. Y genedl mwyaf llwyddianus yn ddiweddar yw China, a ddaeth i'r amlwg sawl degawd yn ôl pan gylchdrowyd plymio gan y hyfforddwr cenedlaethol, Liang Boxi, mewn astudiaeth ddwys o Louganis. Nid yw China wedi colli llawer o bencampwriaethau'r byd ers hynny. Mae'r cenhedloedd eraill sy'n gryf yn cynnwys Awstralia a Canada, sydd wedi cyflogi hyfforddwyr Chineaidd.