Plwm(II) nitrad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sampl o blwm(II) nitrad

Cyfansoddyn anorganig gyda'r fformwla gemegol Pb(NO3)2 yw plwm(II) nitrad. Fe'i geir yn aml ar ffurf crisial di-liw neu bowdr gwyn. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o halwynau plwm(II), mae'n hydawdd mewn dŵr.

Hanes[golygu]

Er yr oesoedd canol, cynhyrchwyd plwm(II) nitrad i'w defnyddio i greu'r sylweddau sy'n rhoi lliw i baentiau plwm megis melyn crôm (plwm(II) chromad), oren crôm (plwm(II) hydrocsid chromad) a chyfansoddion plwm tebyg. Defnyddiwyd y paentiau hyn ar gyfer llifo a phrintio ar galico a thecstiliau eraill.[1]

Ym 1597, yr alcemydd o Almaenwr Andreas Libavius oedd y cyntaf i ddisgrifio'r cyfansoddyn, gan fathu'r enwau canoloesol plumb dulcis a calx plumb dulcis, oedd â'r ystyr "plwm melys", oherwydd ei flas.[2] Rhai canrifoedd yn canrifoedd yn ddiweddarach, deallwyd y gellid manteisio ar allu plwm(II) nitrad i glindarchu mewn matsys a ffrwydryddion arbennig megis plwm(II) azid.[3]

Bu'r broses o'i gynhyrchu yn gemegol syml erioed, yn y bôn, rhaid hydoddi plwm mewn asid nitrig (neu aqua fortis fel y'i gelwid gynt), ac yna echdynnu'r gwaddod. Ond ar raddfa fach yn unig y'i cynhyrchwyd am ganrifoedd, ac ni wyddys am gynhyrchu plwm(II) nitrad fel deunydd crai ar gyfer cyfansoddion plwm eraill ar raddfa fasnachol tan 1835.[4][5] Ym 1974, defnyddiwyd 642 tunell o gyfansoddion plwm, ac eithrio lliwyrau ac ychwanegolion petrol yn yr Unol Daleithiau yn unig.[6]

Cemeg[golygu]

Cemeg ddyfrllyd[golygu]

Mae Plwm(II) nitrad yn hydoddi'n rhwydd mewn dŵr gan roi hydoddiant clir, di-liw.[7] Gan ei fod yn sylwedd ïonig, mae'n daduno i'w ïonau wrth hydoddi.

Pb(NO3)2 (s) → Pb2+ (aq) + 2 NO3- (aq)

Bydd unrhyw hydoddiant sy'n cynnwys yr ïon bositif plwm(II) yn adweithio gyda hydoddiant ag ynddo'r ïon ïodid negatif, gan greu gwaddod plwm(II) ïodid oren-melyn llachar. Defnyddir yr adwaith hon fel enghraifft o waddodi, oherwydd y newid trawiadol a welir yn y lliw, adwaith a gyfeirir ato fel Pot-o-Gold neu Golden Rain:[8]

Pb2+ (aq) + 2 I (aq) → PbI2 (s)

Ceir adwaith metathesis tebyg yn y cyflwr solid pan caiff solidau addas, megis potasiwm ïodid a phlwm(II) nitrad, eu cymysgu a'u malu'n fân gan ddefnyddio pestl a mortar.

Pb(NO3)2 (s) + 2 KI (s) → PbI2 (s) + 2 KNO3 (s)

Bydd lliw'r cymysgedd sy'n cael ei greu yn dibynnu ar feintiau cymharol yr adweithyddion, maint y malu; pa'r un bynnag, bydd y lliw yn wanach na lliw plwm(II) ïodid pur, oherwydd bod solidau gwyn yn dal yn bresennol yn y cymysgedd..

Ag eithrio plwm(II) nitrad, plwm(II) asetad yw' unig sylwedd plwm hydawdd arall. Mae bron iawn i bob sylwedd plwm arall yn anhydawdd mewn dŵr, hyd yn oed pan fo'r ïon negatif yn un sy'n hydoddi'n rhwydd fel arfer. Er enghraifft, mae plwm(II) clorid, plwm(II) bromid, a phlwm ïodid (sef halidau plwm) yn hydawdd mewn dŵr ar grynodiad isel iawn yn unig (llai na 0.01 mol dm−3) ar dymheredd ystafell, a dim ond ychydig yn fwy hydawdd wrth nesâu at y berwbwynt. Canlyniad hyn yw bod plwm(II) nitrad yn eithriadol pwysig fel man cychwyn wrth greu sylweddau plwm anhydawdd trwy gyfrwng daduniad dwbl.

Gellir gwaddodi hydoddiannau halidau plwm poeth wrth eu hoeri, gan greu crisialau fel plu symudliw wedi'u dal yn y dŵr, â'u lliw yn dibynnu ar yr halid dan sylw (clorid = gwyn, bromid = bwff, ïodid = melyn). Mae'r crisialau yn ymddangos yn gyflym iawn, gan mai dim ond angen safle egino sydd wedi i dymheredd yr hydoddiant disgyn islaw'r trothwy dirlenwi. Defnyddir hyn i arddangos hydoddedd yn yr ysgol.[9]

Pan caiff sodiwm hydrocsid crynodedig ei ychwanegu at blwm(II) nitrad, ffurfir halwynau alcalïaidd, hyd yn oed ymhell heibio'r pwynt cywerthedd. Hyd at y pwynt hanner cywerthedd, Pb(NO3)2·Pb(OH)2 sydd fwyaf amlwg, ond ar ôl hyn ffurfir Pb(NO3)2·5Pb(OH)2. Ni ffurfir Pb(OH)2 syml hyd at pH 12 o leiaf.[10][11]

Chem template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Partington, James Riddick (1950). A Text-book of Inorganic Chemistry. MacMillan. tud.  838. 
  2. Libavius, Andreas (1595). Alchemia Andreæ Libavii. Francofurti: Iohannes Saurius. 
  3. Nodyn:Cite article
  4. "Lead". Encyclopædia Britannica Eleventh Edition. http://www.1911encyclopedia.org/Lead. Adalwyd 2006-10-11. 
  5. Macgregor, John (1847). Progress of America to year 1846. London: Whittaker & Co. ISBN 0665517912. 
  6. Greenwood, Norman N.; Earnshaw, A. (1997). Chemistry of the Elements (2nd ed.). Oxford: Butterworth-Heinemann. tud. 388, 456. ISBN 0-7506-3365-4. 
  7. Ferris, L.M. (1959). "Lead nitrate—Nitric acid—Water system". Journal of Chemicals and Engineering Date 5: 242. doi:10.1021/je60007a002. 
  8. Adlam, George Henry Joseph; Price, Leslie Slater (1938). A Higher School Certificate Inorganic Chemistry. London: John Murray. 
  9. Orna, Mary Virginia (1994) (PDF). The chemistry of rocks, minerals and gems. Demonstrations: Pot-o-Gold (version 1.0 ed.). New Rochelle: Chemistry Department, College of New Rochelle. tud.  18–19. NSF Grant TPE 88–50632. http://dwb4.unl.edu/chem_source_pdf/ROCK.pdf. Adalwyd 2007-01-02. 
  10. Othmer, D.F. (1967). Kirk-Othmer Encyclopedia of Chemical Technology. 12 (Iron to Manganese) (second completely revised ed.). New York: John Wiley & Sons. tud.  272. ISBN 0471020400. 
  11. Pauley, J. L.; M. K. Testerman (1954). "Basic Salts of Lead Nitrate Formed in Aqueous Media". Journal of the American Chemical Society 76 (16): 4220–4222. doi:10.1021/ja01645a062.