Play.com
Oddi ar Wicipedia
| Play.com | |
|---|---|
| Math | Is-gwmni |
| Genre | Adwerthwr arlein |
| Sefydlwyd | 1998 |
| Pencadlys | Saint Helier, Jersey |
| Cynnyrch | DVDs, CDs, llyfrau, nwyddau electonig, teclynnau, lawrlwythiadau cerddorol, dillad |
| Rhiant-gwmni | Rakuten |
| Gwefan | Play.com |
Adwerthwr arlein sydd wedi'i leoli yn Jersey ydy Play Ltd., sy'n masnachu o dan yr enw Play.com. Gwerthant DVDs, CDs, llyfrau, teclynnau, gemau fideo, lawrlwythiadau MP3, a nwyddau electronig eraill, yn ogystal â dillad a mwyddau eraill. Mae'n un o is-gwmnïau'r Rakuten Group.
Fe'i sefydlwyd yn 1998, a daeth Play.com yn un o'r cwmnïau arlein cyntaf i dargedu'r DU. Yn ôl Hitwise sy'n monitro traffig i wefannau, Play.com yw'r adwerthwr arlein ail fwyaf yn y DU, ac mae o fewn y 50 adwerthwr arlein mwyaf yn fyd-eang. Mae ganddynt 7,000,000 o gwsmeriaid cofrestredig, catalog o dros 8,000,000 o gynhyrchion ac maent yn cyflogi dros 500 o staff.