Plas Nantclwyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Plas Nantclwyd

Mae Plas Nantclwyd yn adeilad rhestredig Gradd II yng nghymuned Llanelidan, Sir Ddinbych. Mae'n un o gartrefi'r teulu Naylor-Leyland ar stad Nantclwyd. Rhwng 1956 a 1970, dyluniwyd rhannau o'r tŷ, gerddi a pharc y plas gan y pensaer adnabyddus, Clough Williams-Ellis.[1]

Yn ystod yr 17eg ganrif roedd Plas Nantclwyd yn adnabyddus fel lle a oedd yn groesawus i'r beirdd a'u crefft, fel sy'n amlwg o'r cywydd isod gan Mathew Owen o Langar.[2] Ymddengys bod rhai yn y cyfnod wedi arfer cyfeirio at y tŷ fel Pont y Go, ar ôl bont cyfagos dros yr Afon Clwyd.

Ymhlwy Llanlidan wladedd
mae lles mawr mae llys y medd;
llawn yw hwn, llawen henwydd,
o ennaint cler yn Nant Clwyd.

...

er ganed plasau glennydd
hyd doldir ein sir ni sydd
nid adwen un, od ydi,
yn y wlad hon, ail i ti
am gwrw a bir, difir a dôn,
a gae fyrdd , ag i feirddion.
Wrth son, anfodlon wyf i,
dig am hyn dy gamhenwi.
Anrewsm enw a roesont,
di-lân beth dy alw yn bont.
Nid pont wyd, ond penna tŷ,
cu diriongrair cadarngry.
Pont ar Glwyd, pwynt i'r gwledydd,
yn dy'ymyl, blas annwyl, fydd.
Dithau ar fryn, goddfyn gwaed,
na lysenwan, lys henwaed.
Pont y Go yw honno ei hun
dithau, plas Nantclwyd laslun.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Cronoleg Clough Williams-Ellis". Portmeirion Ltd. http://www.portmeirion-village.com/cy/ymweld/clough-williams-ellis/cronoleg/. Adalwyd 7 Gorffennaf 2014. 
  2. Jones, E.D.. "The Brogyntyn Welsh manuscripts". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 7 (4 (Gaeaf 1952)): 277-315. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/listarticles/llgc-id:1277425/llgc-id:1279553. Adalwyd 7 Gorffennaf 2014.