Plant gwyrdd Woolpit

Oddi ar Wicipedia
Arwydd a godwyd yn 1977 sy'n portreadu'r ddau blentyn gwyrdd.

Dywedir i blant gwyrdd Woolpit ymddangos ym mhentref Woolpit yn Suffolk, Dwyrain Lloegr, rhywbryd yn y 12g, efallai yn ystod teyrnasiad y Brenin Steffan. Roedd y ddau blentyn, brawd a chwaer, o olwg normal ac eithrio lliw gwyrdd eu croen. Siaradent iaith ddieithr, a ffa gwyrdd oedd yr unig fwyd byddent yn ei fwyta. Ymhen amser dysgodd y plant i fwyta bwydydd eraill a chollasant hwy eu lliw gwyrdd, ond bu'r bachgen yn afiach a bu farw yn fuan wedi i'r plant gael eu bedyddio. Addasodd y ferch at ei bywyd newydd, ond ystyrid hi "braidd yn wyllt a hoedennaidd ei hymddygiad". Wedi iddi ddysgu siarad Saesneg esboniodd y ferch y daw hi a'i brawd o St Martin's Land, byd tanddaearol â thrigolion gwyrdd.

Ceir yr unig adroddiadau lled-gyfoes yn Chronicum Anglicanum gan Ralph o Coggeshall a Historia rerum Anglicarum gan William o Newburgh, a ysgrifennwyd tua 1189 a 1220 yn y drefn honno. Rhwng y gweithiau hyn a'u hail ddarganfyddiad yng nghanol y 19g, ymddangosir y plant gwyrdd dim ond yn y llyfr ffantastig The Man in the Moone gan yr Esgob Francis Godwin, sydd yn adrodd hanes William o Newburgh.