Plaid Glyndŵr

Oddi ar Wicipedia
Logo'r blaid

Plaid wleidyddol Gymreig asgell dde yw Plaid Glyn Dŵr.[1] Ei phrif nod yw ennill annibyniaeth i Gymru y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.[1] Enwir y blaid newydd hon ar ôl y Tywysog Owain Glyndŵr. Mae'n blaid weriniaethol sy'n gwrthod y teulu brenhinol Prydeinig.

Sefydlwyd y blaid gan Dennis Morris; ef yw'r cadeirydd presennol hefyd.[2]

Ymhlith amcanion y blaid y mae:

  • Ymgyrchu dros Gymru annibynnol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
  • Ymgyrchu dros swyddi Cymreig o flaen unrhyw bolisiau gwyrdd Prydeinig.
  • Gwrthwynebu pob cynllun fydd yn bygwth neu ddinistrio hunaniaeth genedlaethol y Cymry.
  • Yr hawl i Gymru reoli ei hadnoddau naturiol ei hun.
  • Ymgeisio mewn etholiadau Cymuned, tref a Sir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Plaid genedlaetholgar newydd i Gymru golwg360.com 30 Tachwedd 2013; adalwyd 14 Tachwedd 2013
  2. "Gwefan Plaid Glyndŵr: Ideology". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-12. Cyrchwyd 2013-11-13.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.