Pladur

Oddi ar Wicipedia
Pladur bren draddodiadol

Erfyn amaethyddol a ddefnyddir i ladd gwair a medi cnydau yw pladur. Dros amser (yr 20g) daeth y tractor a chyfarpar peirianyddol eraill i gymryd ei le yn y rhan fwyaf o wledydd ariannog hemissfêr y gogledd, ond mae'n parhau i gael ei ddefnyddio mewn gwledydd sy'n datblygu.

Dull a defnydd[golygu | golygu cod]

Mae'r canlynol gan O. T. Jones yn ddisgrifiad o'r pladurwr wrth ei waith:

”....Byddai rhyw hoe fach wedyn [ar ôl y cynhaeaf gwair] cyn y cynhaeaf ŷd. Yr haidd fyddai gyntaf i aeddfedu tua diwedd Awst os ceid ha' da. Byddai'n ofynnol iddo aeddfedu yn wyn neu byddai'r col yn wydn a'r peiriant dyrnu yn methu cael haidd glân. Pladuriau fel rheol fyddai'r drefn i dorri, a gafrwyr yn dilyn, dau os byddai'r pladurwr yn deall ei grefft, a'i bladur wedi ei gosod allan ac yn finiwr penigamp. Rhaid oedd bod yn daclus wrth afra, gofalu fod y gwellt yn yr ysgub yn gorwedd yr un ffordd a dim o'r brig yn gymysg, yna dewis rhwymyn, tynnu chwech neu saith gwelltyn ger eu brig a rhwymo'r ysgub oddeutu ei chanol. Byddai cwlwm arbennig i'w wneud, dau dro tynn yn y rhwymyn ac yna gwthio'r gweddill o dan y rhwymyn ond gofalu peidio gwthio'r brig rhag i'r grawn dyfu pe digwyddai fod tywydd gwlyb. Y gwaith nesaf fyddai codi'r ysgubau yn swp o bedair a rhwymo'r brigau drachefn gyda'r un math o rwymyn er mwyn iddynt aros ar eu traed pe deuai storm o wynt. Os ceid tywydd ffafriol, awel a haul ymhen pythefnos, byddai'r ŷd yn barod i'w gario, taflu'r sypiau i lawr a gofalu fod cwt yr ysgubau tua'r gwynt iddynt sychu yn iawn. Dyma'r ŷd eto i ddiogelwch ac i aros dyrnu.”[1]

Miniogi

Y Stric: hen ddull o finiogi pladur gyda darn o bren wedi ei orchuddio â grut a saim.

Stric, teclyn i finiogi pladur, wedi ei ddarganfod ymysg hen wastraff yn Ardudwy, 1970au
Medi 1934: Torri ŷd ar hyd yr wythnos hefo pladuriau. Gafra a chodi geifr. Grytio y stric [chwith] bump gwaith. Torri haidd ddydd Sadwrn a chario gwair o'r Weirglodd. Hel cnau llond tair poced.[2]

Sawl gafr (neu stycyn ŷd) fyddai DO wedi eu cael wrth orfod grytio ei stric bum gwaith?

Ffenoleg ac amseru’r gwaith[golygu | golygu cod]

Pladuro - cofnodion o'r Tywyddiadur
  • Aberdaron 24 Mehefin 1889: Talais 2/- i Thomas Penybryn am osod dwy bladur a dau strick.
  • Bwlchtocyn, 5 Gorffennaf 1933: Dechrau torri ddarn arall [o wair?] yn cae fuwch. Torri coes y bladur. Poeth.
  • Padog, 11 Gorffennaf 1935: Mynd a'r bladur newydd i Sbyty Ifan i'w lifio ar y maen wrth y Felin. Grytio y stric a hogi a thorri gwair gyda'r nos.
  • Llansilin, Sir Dinbych 22 Gorffennaf 1932: Trin gwair a cario llwyth o cae hade dwad yn wlaw llifo bladur tori asgell yn cae bwlch.
  • Rhiw, Llŷn 17 Awst 1933: Glaw bore. Diwrnod rigio y ddwy bladur a’i llifo
  • Padog, 12 Awst 1950:Torri ŷd cae lloeau hefo’r pladur, gafra, a codi geifr. Gosod ffrwyn ar y bladur.
  • Padog, 28 Awst 1935: Dechrau torri yd hefo pladuriau. Torri dwy acer a'i arfa [sic.] a chodi ysgubau fesul pedair yn rhesi.
  • Padog, 29 Medi 1948: Torri yd yn gornel cae canol yn y bore hefo'r bladur, garfa [sic.], a chodi geifr, torri ceirch weirglodd ffynnon.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pigion o “Arferion a Chwaraeon ardal y Parc erstalwm” gan “Hen Ddwylo” (OT Jones efallai). Trwy law Carys Dafydd.
  2. Dyddiadur D.O. Jones, Padog yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur
  3. Pob un yn ddyfyniad o ddyddiadur gwreiddiol a drawsgrifwyd i Dywyddiadur Llên Natur [1]