Plât tectonig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mapiwyd platiau tectonic y Ddaear yn ail hanner yr 20ed ganerif.
Symudiad y platiau - yn seiliedig ar data lloeren Global Positioning System (GPS) gan NASA JPL. Mae'r fectorau'n dangos maint a chyfeiriad y symudiad.
Gweddillion Plat Farallon, yn ddwfn oddi fewn i fantell y Ddaear.

Theori wyddonol sy'n disgrifio symudiad rhannau mewnol lithosffer y Ddaear ydy Plât tectonig neu tectonig platiau. Daw'r gair "tectonig" o'r gair Lladin tectonicus (τεκτονικός)[1]: "rhywbeth sy'n ymwneud ag adeiladau". Mae'r theori hon yn ddatblygiad o theori gynharach o'r enw drifft cyfandirol (Saesneg: continental drift) sy'n tarddu'n ôl i ddegawd cyntaf y 20ed ganrif ond a ddaeth yn dderbyniol gan fwyafrif geo-wyddonwyr y byd yn y 1950au.

Gellir rhannu lithosffer y Ddaear i 7 - 8 o blatiau tectonig sylweddol a nifer o rai llai. Mae'r platiau hyn yn arnofio ar yr asthenosffer. Mae ganddyn nhw gyd-berthynas â'i gilydd: tri gwahanol fath o ffiniau gorgyffwrdd: ble ceir daeargrynfâu, llosgfynyddoedd gweithredol, symudiadau ffurfio mynyddoedd a ffosydd enfawr yn y môr yn cael eu creu. Mae symudiad lletraws y platiau'n amrywio rhwng 0 - 100 mm pob blwyddyn.[2]

Dyma restr o nifer o blatiau tectonig y byd.

Platiau tectonig

Cynnwys

Platiau Mawr Heddiw [golygu]

  • Plât Affricanaidd
  • Plât Antarctig
  • Plât Arabaidd
  • Plât Awstralaidd
  • Plât Cocos
  • Plât Dde Americanaidd
  • Plât Ewrasaidd
  • Plât Gogledd Americanaidd
  • Plât India
  • Plât Indo-Awstralaidd
  • Plât Nazca
  • Plât Philipinaidd
  • Plât Scotia
  • Plât y Môr Tawel

Platiau Llai Heddiw [golygu]

  • Plât Adriatig
  • Plât Amuriaidd
  • Plât Anatoliaidd
  • Plât-Micro Bismark
  • Plât Bwrma
  • Plât Caribaidd
  • Plât Caroline
  • Plât Ddwyrain Americanaidd
  • Plât-Micro Easter
  • Plât Explorer
  • Plâtiau-Micro Fiji
  • Plât-Micro Galapagos
  • Plât Gorda
  • Plât Hellenig
  • Plât Iberiaidd
  • Plât Iranaidd
  • Plât Juan de Fuca
  • Plât-Micro Juan Fernandez
  • Plât Okhotsk
  • Plât-Micro Rivera
  • Plât Somali
  • Plât South Sandwich
  • Plât Sunda
  • Plât Tonga

Han blatiau [golygu]

  • Plât Farallon
  • Plât Kula

Gweler Hefyd [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. [Little, W.; Fowler, H.W.; Coulson, J. (1990). Onions C.T. ed. The Shorter Oxford English Dictionary: on historical principles. II. Clarendon Press. ISBN 9780198611264.]
  2. [Read, Herbert Harold; Watson, Janet (1975). Introduction to Geology. New York: Halsted. pp. 13–15. ISBN 9780470711651. OCLC 317775677.]