Pinc y Mynydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pinc y Mynydd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Fringilla
Rhywogaeth: F. montifringilla
Enw deuenwol
Fringilla montifringilla
Linnaeus, 1758
Fringilla montifringilla

Mae Pinc y Mynydd (Fringilla montifringilla) yn perthyn i'r teulu Fringillidae, y pincod. Mae'n aderyn cyffredin trwy goedwigoedd gogledd Ewrop, ac Asia. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a thua'r gorllewin, i dde Ewrop, gogledd Affrica, India, China a Japan.

Adeiledir y nyth mewn coeden fel rheol, mewn coedwigoedd gweddol agored, ac mae'n dodwy 4-9 wy. Tu allan i'r tymor nythu mae'n casglu'n heidiau, yn aml gyda'r Ji-binc. Hadau yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.

Rhaid bod yn weddol ofalus i wahaniaethu rhwng Pinc y Mynydd a'r Ji-binc. Mae gan Binc y Mynydd fron oren a bol gwynnach na'r Ji-binc, ac wrth hedfan mae'n dangos darn gwyn uwchgben y gynffon. Yn y tymor nythu mae gan y ceiliog ben a chefn du.

Nid yw Pinc y Mynydd yn nythu yng Nghymru ond mae nifer amrywiol yn gaeafu yma. Weithiau gellir gweld heidiau o gannoedd, ond fel rheol gellir gweld un neu ddau mewn haid o'r Ji-binc.