Pila Gwyrdd
| Pila Gwyrdd | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Fringillidae |
| Genws: | Carduelis |
| Rhywogaeth: | C. spinus |
| Enw deuenwol | |
| Carduelis spinus (Linnaeus, 1758) |
|
Mae'r Pila Gwyrdd (Carduelis spinus) yn perthyn i'r teulu Fringillidae. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, gorllewin Rwsia a rhan o ddwyrain Asia.
Nid yw'r Pila Gwyrdd yn aderyn mudol yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n weddol gynnes, ond mae adar o'r gogledd yn symud tua'r de a'r gorllewin yn y gaeaf. a'r adar o ddwyrain Asia yn gaeafu yn China . Mae'n aderyn gweddol fychan, 11.5-13.5 cm o hyd. Mae'r cefn yn llwydwyrdd a'r bol yn llwyd gyda marciau gwyn, yr adenydd yn ddu dyda bar melyn amlwg ar eu traws a'r gynffon yn ddu gydag ochrau melyn. Mae pen a bron y ceiliog yn felyn gyda chap du, tra mae'r iâr yn llwydwyrdd ar y pen.
Adeiledir y nyth mewn coeden fel rheol, ac mae'n aderyn nodweddiadaol o goedwigoedd bytholwyrdd. Hadau yw'r bwyd fel rheol, ac mae'n arbennig o hoff o hadau Gwernen a Bedwen, ond mae hefyd yn dal pryfed i fwydo'r cywion. Yn y gaeaf mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau.
Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru, lle mae wedi cynyddu'n sylweddol yn stod yr 50 mlynedd diwethaf.