Pibydd y Dorlan
Oddi ar Wicipedia
| Pibydd y Dorlan | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Scolopacidae |
| Genws: | Actitis |
| Rhywogaeth: | A. hypoleucos |
| Enw deuenwol | |
| Actitis hypoleucos (Linnaeus, 1758) |
|
Aderyn sy'n aelod o deulu'r rhydyddion yw Pibydd y Dorlan (Actitis hypoleucos). Mae'n aderyn mudol, yn nythu ar draws rhan helaeth o Ewrop ac Asia, ac yn gaeafu yn Affrica, de Asia ac Awstralia.
Mae'r aderyn yn 18-20 cm o hyd, a 32-35 cm ar draws yr adenydd. Mae ganddo gefn llwyd a bol gwyn. Eu prif fwyd yw unrhyw greaduriad bychain sy'n byw ar y mwd o gwmpas y glannau neu yn y dŵr. Mae'n nythu ar lawr. gerllaw afonydd a llynnoedd.
Yng Nghymru, mae Pibydd y Dorlan yn nythu o gwmpas llynnoedd ac afonydd ar yr ucheldiroedd yn bennaf, a gall fod yn weddol gyffredin. Yn y gwanwyn ac wedi diwedd y tymor nythu, fe'i gwelir ger glannau aberoedd. Ceir ambell un yn treulio'r gaeaf yma.