Pibydd Cambig
Oddi ar Wicipedia
| Pibydd Cambig | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Scolopacidae |
| Genws: | Calidris |
| Rhywogaeth: | C. ferruginea |
| Enw deuenwol | |
| Calidris ferruginea (Pontoppidan, 1763) |
|
Un o aelodau llai teulu'r rhydyddion yw'r Pibydd Cambig (Calidris ferruginea).
Mae'r Pibydd Cambig yn nythu yn yr Arctic, yng ngogledd Siberia. Mae'n aderyn mudol, ac yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, cyn belled ag Affrica, de-ddwyrain Asia ac Awstralia. Yn y gaeaf maent yn hel at ei gilydd yn heidiau, weithiau gyda rhydyddion eraill. Fe'i ceir yn aml gyda Pibydd y Mawn, a gall fod yn anodd eu gwahaniaethu tu allan i'r tymor nythu. Mae'r Pibydd Cambig ychydig yn fwy, 19.5–21 cm o hyd, ac mae'r pig yn hirach ac yn troi at i lawr. Yn y tymor nythu, mae ganddo gefn llwyd a bol coch.
Nid yw'n nythu yng Nghymru, ond gwelir niferoedd o gwmpas y glannau yn yr hydref ambell flwyddyn. Ceir ambell unigolyn yn y gaeaf nei'r gwanwyn.