Philippi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Philippi

Dinas yn nwyrain Macedonia oedd Philippi (Groeg: Φίλιπποι/ Philippoi). Saif tua 20 km i'r gogledd-orllewin o ddinas bresennol Kavála.

Sefydlwyd y ddinas yn 356 CC gan Philip II, brenin Macedon, ar safle hen ddinas Crenides (Κρηνἱδες). Datblygodd i fod yn ddinas bwysig. Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd Philippi ar y Via Egnatia. Bu'n Apostol Paul yma, y tro cyntaf iddo ymweld ag Ewrop. Yma yr ymladdwyd Brwydr Philippi yn 42 CC rhwng dwy fyddin Rufeinig, un dan ddau o lofruddion Iŵl Cesar, Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus, a'r llall dan Marcus Antonius a mab mabwysiedig Cesar, Gaius Octavianus (yn ddiweddarach yr ymerawdwr Augustus Cesar).

Tua'r flwyddyn 60 OC, ysgrifenodd yr Apostol Paul lythyr at Gristnogion Philippi, sef Llythyr Paul at y Philipiaid.

Diboblogwyd y ddinas wedi i Ymerodraeth yr Otomaniaid goncro'r ardal yn y 14eg ganrif.

Gwedfillion canol Philippi