Philip I, Landgraf Hessen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Philip Mawfrydig, Landgraf Hessen

Arweinydd y Diwygiad Protestannaidd yn yr Almaen oedd Philip I, Landgraf Hessen neu Philip y Mawrfydig (Almaeneg: Philip der Großmütige) (13 Tachwedd 1504 - 31 Mawrth 1567). Roedd yn un o brif arweinwyr yr Almaen yng nghyfnod Y Diwygiad Protestannaidd.

Ganed Philip ym Marburg yn fab i William II, Landgraf Hessen ac Anna o Mecklenburg-Schwerin; bu farw ei dad pan oedd yn bump oed. Daeth ef yn landgraf yn dilyn farwolaeth ei dad yn 1509. Trefnodd Philip yr Egwys yn Hessen dan egwyddorion Protestannaidd yn 1527. Daeth ef yr arweinydd yr Cynghrair Schmalkaldig.

Bu farw yn 1567 yn Cassel, a rhannwyd Landgrafiaeth Hessen rhwng ei bedwar feibion o'r briodas gyntaf. Etifeddodd Wilhelm y Landgrafiaeth Hessen-Cassel, etifeddodd Ludwig y Landgrafiaeth Hessen-Marburg, etifeddodd Philip y Landgrafiaeth Hessen-Rheinfels, ac etifeddodd Georg y Landgrafiaeth Hessen-Darmstadt.

Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato