Peter Thomas

Oddi ar Wicipedia
Peter Thomas
Ganwyd31 Gorffennaf 1920 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 2008 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Ysgrifennydd Gwladol Cymru Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadDavid Thomas Edit this on Wikidata
MamAnne Gwendoline Mitchell Edit this on Wikidata
PriodFrances Elizabeth Tessa Dean Edit this on Wikidata
PlantDavid Nigel Mitchell Thomas, Huw Basil Maynard Mitchell Thomas, Frances Jane Mitchell Thomas, Catherine Clare Mitchell Thomas Edit this on Wikidata
Peter Thomas

Cyfnod yn y swydd
20 Mehefin 1970 – 5 Mawrth 1974
Rhagflaenydd George Thomas
Olynydd John Morris

Geni 31 Gorffennaf 1920
Marw 4 Chwefror 2008
Etholaeth Conwy (1951-1966)
De Hendon (1970-1987)

Peter John Mitchell Thomas, Barwn Thomas o Wydir (31 Gorffennaf 1920 - 4 Chwefror 2008), oedd y Ceidwadwr cyntaf i weithredu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, swydd a ddaliodd o 20 Mehefin 1970 hyd 5 Mawrth 1974.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn fab i gyfreithiwr yn Llanrwst, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Epworth, Y Rhyl a Coleg yr Iesu, Rhydychen. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd treuliodd y cyfnod 1941-1945 yn garcharor rhyfel yn yr Almaen. Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Conwy am 15 mlynedd, o 1951 hyd 1966, pan gollodd y sedd i Ednyfed Hudson Davies (Llafur). Daeth yn Aelod Seneddol dros etholaeth Hendon South yn 1970, a'r un flwyddyn penododd Edward Heath ef yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ef oedd yr Ysgrifennydd cyntaf nad oedd yn cynrychioli etholaeth Gymreig.

Cadwodd sedd Hendon South nes iddi ymddeol yn 1987. Y flwyddyn honno cafodd y teitl Barwn Thomas o Wydir.

Bu'n gadeirydd y Blaid Geidwadol am ddwy flynedd. Fel Aelod Seneddol ar y meinciau cefn, bu'n gyfrifol am newid y ddeddf i alluogi cynghorau lleol i roi cefnogaeth ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd yn gyfrifol am Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Elwyn Jones
Aelod Seneddol dros Gonwy
19511966
Olynydd:
Ednyfed Hudson Davies
Rhagflaenydd:
Syr Hugh Lucas-Tooth
Aelod Seneddol dros Dde Hendon
19701987
Olynydd:
John Leslie Marshall
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
George Thomas
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
20 Mehefin 19705 Mawrth 1974
Olynydd:
John Morris