Peter Ellis Eyton

Oddi ar Wicipedia
Peter Ellis Eyton
Ganwyd1827 Edit this on Wikidata
Y Fflint Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mehefin 1878 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Peter Ellis Eyton (1827 -19 Mehefin 1878) yn gyfreithiwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Eyton ym 1827 yn y Fflint yn fab i James Eyton, cyfreithiwr a Mary (née Parry) ei wraig. Does dim sicrwydd o'i union ddyddiad geni ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys Llanynys 8 Hydref 1827.[1]

Cafodd ei addysgu yn y Wyddgrug a'r Liverpool Institute

Roedd yn ddibriod.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cadair Caerfaddon

Wedi cymhwyso yn y gyfraith yn Lerpwl aeth i weithio yn siambrau cyfreithiol y teulu yn y Fflint. Yn ogystal â gweithio fel cyfreithiwr teuluol bu hefyd yn cyflawni nifer o ddyletswyddau cyfreithiol dinesig megis Clerc Cyngor Tref y Fflint, Clerc Ynadon Sir y Fflint a Chofrestrydd Llys Sirol y Wyddgrug.

Tua 1869 cafodd ei daro gan salwch a achosodd parlys yn ei ddwy goes a'i fraich dde, bu yn gaeth i gadair Caerfaddon (math o gadair olwynion o'r 19g) am weddill ei oes.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ar ôl dyrchafiad yr Aelod Rhyddfrydol Syr John Hanmer i Dŷ'r Arglwyddi ym 1872 etholwyd Syr Robert Alfred Cunliffe fel olynydd iddo yn ddiwrthwynebiad; penderfyniad nad oedd wrth fodd pawb yn y Blaid Ryddfrydol leol. Roedd Syr Robert yn fonheddwr o Sais, doedd o ddim yn byw yn yr etholaeth,[2] ac roedd yn llugoer at achos Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Penderfynodd Peter Ellis Eyton ei herio am y bleidlais Ryddfrydol yn etholiad cyffredinol 1874. Cafodd ei ethol gan wthio Syr Robert i'r trydydd safle a chrafu i'r brig gyda dim ond 4 pleidlais o fwyafrif dros yr ymgeisydd Ceidwadol.

Etholiad cyffredinol 1874: Bwrdeistrefi Fflint Etholfraint 3,628
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Peter Ellis Eyton 1,076 36.8
Ceidwadwyr C G Rowley-Conway 1,072 40.9
style="background-color: Nodyn:Rhyddfrydwr Annibynnol/meta/lliw; width: 5px;" | [[Rhyddfrydwr Annibynnol|Nodyn:Rhyddfrydwr Annibynnol/meta/enwbyr]] Syr Robert Alfred Cunliffe 772 26.5
Mwyafrif 4
Y nifer a bleidleisiodd 73.3
Rhyddfrydol yn cadw Gogwydd

Roedd honiadau yn y wasg bod Eyton wedi prynu ei sedd trwy roi yn hael i achosion megis clybiau gweithwyr, ysgolion Sul, capeli a chymdeithasau dirwest. Dwywaith yn ystod ei gyfnod yn y Senedd cafodd ei erlyn yn y llysoedd am beidio talu dyledion[3]; yr oedd y wasg Dorïaidd yn honni ei fod wedi mynd i ddyled oherwydd iddo wario ei holl arian ar lwgrwobrwyo'r etholwyr; ond gan iddo adael dros £4000 yn ei ewyllys[4] dim ond pedair blynedd ar ôl ei ethol mae'n annhebygol bod yr honiadau yn wir.

Pan gafodd ei ethol yr oedd yn un o ddau aelod o'r Tŷ Cyffredin a oedd yn defnyddio cadair olwyn, y llall oedd Arthur Kavanagh AS Ceidwadol Swydd Carlow[5]. Roedd agwedd y wasg tuag at ei anabledd yn gymysglyd. Roedd papurau Torïaidd fel y North Wales Express yn ddilornus o'r ffaith bod yr etholaeth yn cael ei chynrychioli gan helpless cripple[6], tra fo'r wasg Ryddfrydol yn ei glodfori am fod yn aelod mor weithgar er gwaethaf ei anawsterau[7].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Cofeb yn Eglwys Sant Saeran, Llanynys

Bu Peter Ellis Eyton farw yn ysbyty'r Rhyl ym 1878 a'i gladdu ym mynwent Eglwys Sant Saeran, Llanynys, mae cofeb iddo ar wal yr Eglwys.[8].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestri Plwyf Llanynys Bedyddiadau 1827 rhif 229 - Gwasanaeth Archifau Sir y Fflint
  2. NEWYDDION CYMREIG Tyst a'r Dydd 25 Ebrill 1873 [1] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
  3. POLITICS IN NORTH WALES The Wrexham Guardian 6 Mai 1876 [2] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
  4. RHYL. THE LATE MEMBERS WILL Wrexham Guardian 9 Tachwedd 1878 [3] adalwyd 30 rhagfyr 2014
  5. TIPYN O BOB PETH Cambrian News and Merionethshire Standard 13 Mawrth 1874 [4] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
  6. DEATH OF Mr PETER ELLIS EYTON, M.P. North Wales Express 21 Mehefin 1878 [5] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
  7. Yr Wythnos Tyst a'r Dydd 28 Mehefin 1878 [6] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
  8. FUNERAL OF MR. PETER ELLIS EYTON, M.P Llangollen Advertiser 28 Mehefin 1878 [7] adalwyd 30 Rhagfyr 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Robert Alfred Cunliffe
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint
18741878
Olynydd:
John Roberts