Pete Docter

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pete Docter yn 2008

Mae Peter Docter (ganed 10 Awst, 1968) yn gyfarwyddwr ffilm Americanaidd o Bloomington, Minnesota. Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo'r ffilm Pixar, Monsters, Inc.. Graddiodd o Ysgol Uwchradd John F. Kennedy yn Bloomington. Mae ef hefyd yn gyn-aelod o'r Mentor Connection.

Cyn ymuno â Pixar, crëodd Pete Docter dri animeiddiad na wnaed ar gyfrifiadur, sef Next Door, Palm Springs, a Winter.

Mae Docter wedi bod yn rhan allweddol o nifer o weithiau mwyaf poblogaidd Stiwdios Pixar, gan gynnwys Toy Story, Toy Story 2, A Bugs Life a Monsters, Inc.. Cyfrannodd i'r ffilmiau animeiddiedig hyn fel yr awdur ar y cyd, a gweithiodd gyda phobl fel John Lasseter, Andrew Stanton a Joe Ranft. Darparodd y llais hefyd ar gyfer Mr. Incredible yn cartŵn byr "Mr. Incredible and Pals" a ryddhawyd ar y DVD The Incredibles. Derbyniodd yr holl ffilmiau hyn feirniadaethau clodwiw gan ennill gwobrau niferus.

Yn 2004, gofynnodd John Lasseter iddo gyfarwyddo'r fersiwn Saesneg o Howl's Moving Castle. Gwrthododd Lasseter y prosiect am ei fod yn rhy brysur yn creu'r ffilm Cars.

Yn fwyaf diweddar, cyfarwyddodd Docter Up, a ryddhawyd ar y 29ain o Fai, 2009.

Ffilmograffiaeth Pixar[golygu]

Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.