Perth, Gorllewin Awstralia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Perth (Awstralia))
Neidio i: llywio, chwilio
Perth
Perth Montage.png
Perth locator-MJC.png
Lleoliad o fewn Awstralia
Gwlad Awstralia
Ardal Gorllewin Awstralia
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Cyngor y Ddinas
Maer Lisa Scaffidi
Pencadlys Parliament House
Daearyddiaeth
Arwynebedd 4.9 milltir sgwar 12.7 km²
Uchder Maes Awyr- 20.4 m
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad (Dinas Perth) 13,486 (Cyfrifiad 2007)
Dwysedd Poblogaeth 2,753.2/milltir sgwar 1063 /km2
Metro 1,554,769
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser UTC+8 (UTC+9 DST)
Cod Post Ansicir
Gwefan http://www.cityofperth.wa.gov.au/
Erthygl am y ddinas yn Awstralia yw hon. Gweler hefyd Perth (gwahaniaethu).

Prifddinas talaith Gorllewin Awstralia yw Perth. Hi yw'r ddinas fwyaf yn y dalaith, gyda phoblogaeth o tua 1.5 miliwn. Cafodd Perth ei sefydlu ym 1829.

Daearyddiaeth[golygu]

Perth yw un o'r dinasoedd mwyaf arwahanedig ac arunig yn y byd - y ddinas agosaf yw Adelaide sydd yn Ne Awstralia ac sydd 2,104 kilomedr (1,307 mill) i ffwrdd. Mae'r ddinas yn agosach i Ddwyrain Timor, Singapore a Jakarta sydd yn Indonesia nag i Sydney, Melbourne a Brisbane sydd yn yr un wlad.

Cyfathrebau[golygu]

Mae Awstralia yn wlad eang iawn ac felly dim ond yn y dinasoedd y gwelir priffyrdd. Mae'r ffordd Kwinana Freeway yn ymestyn o Rockingham yn ne'r ddinas i'r CBD (canol busnes dref) a Kings Park. Mae'r Mitchell Freeway yn parhau o’r ardal yma i faestrefi gogleddol y ddinas lle mae'n dod i ben yn Joondalup. Lleolir Maes Awyr Perth yn agos i faestref o’r enw Welshpool a leolir yn ne ddwyrain y ddinas. Mae yna drenau trydanol modern yn y ddinas sy'n cwrdd mewn gorsaf trenau modern tanddaearol yng nghanol y ddinas. Mae cychod yn mewnforio i'r porthladd enfawr yn Fremantle, sy'n 10 milltir o'r ddinas.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Castell Albany Bell
  • Cofadail y Fforwyr
  • Eglwys Wesley
  • Llyfrgell J S Battye
  • Stadiwm Perth
  • Tŷ Le Fanu

Mae gan Perth nifer o adeiladau uchel

Enw Uchder Lloriau Adeiladu Pwrpas
1 Central Park 249 m (817 ft) 51 1992 Swyddfeydd
2 BankWest Tower 214 m (702 ft) 50 1988 Swyddfeydd
3 QV.1 163 m (535 ft) 38 1991 Swyddfeydd
4 Exchange Plaza 146 m (479 ft) 40 1992 Swyddfeydd
5 St Martins Tower 140 m (459 ft) 33 1977 Swyddfeydd
6 Woodside Plaza 137 m (449 ft) 28 2003 Swyddfeydd
7 Allendale Square 132 m (433 ft) 31 1976 Swyddfeydd
8 140 St Georges Terrace ("AMP Building" gynt) 131 m (430 ft) 30 1975 Swyddfeydd
9 Forrest Centre 110 m (361 ft) 30 1990 Swyddfeydd
9 Governor Stirling Tower 110 m (361 ft) 28 1978 Swyddfeydd

Enwogion[golygu]

Demograffeg[golygu]

Perth yw'r 4ydd dinas yn ôl maint yn y wlad. Poblogaeth y ddinas oedd 1,445,079 yn ôl cyfrifiad 2006. Mae cyfran uchel o'r boblogaeth yn dod o dramor. Dengys hyn yn y tabl isod.

Poblogaeth genidigaethau
tramor arwyddocaol
Gwlad Genedigaeth Poblogaeth
(2006)
Deyrnas Unedig 171,024
Seland Newydd 34,661
Malaysia 18,993
De Affrica 18,828
Yr Eidal 18,814
India 14,094
Singapore 11,237
Vietnam 10,078
Iwerddon 7,813
Netherlands 7,715
Gweriniaeth Pobl Tsieina 7,684
Yr Almaen 7,684
Indonesia 7,404
Unol Daleithiau America 5,558
Philippines 5,222

Dinaswedd[golygu]

Canol Busnes Dref Perth o ardal Kings Park.
Magnify-clip.png
Canol Busnes Dref Perth o ardal Kings Park.


Prifddinasoedd Awstralia

Baner Awstralia

Adelaide (De Awstralia) | Brisbane (Queensland) | Canberra (Cenedlaethol, a Tiriogaeth Prifddinas Awstralia) | Darwin (Tiriogaeth Gogleddol) | Hobart (Tasmania) | Melbourne (Victoria) | Perth (Gorllewin Awstralia) | Sydney (De Cymru Newydd)



Dinasoedd Gorllewin Awstralia

Baner Gorllewin Awstralia

Prifddinas: Perth
Dinasoedd: Albany | Broome | Bunbury | Fremantle | Kalgoorlie | Mandurah