Peredur ap Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Peredur ap Gwynedd
Ganwyd5 Tachwedd 1970 Edit this on Wikidata
Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
Arddullroc electronig Edit this on Wikidata

Gitarydd Cymreig yw Peredur Wyn ap Gwynedd (ganed 1970), sy'n fwyaf adnabyddus am chwarae gyda'r band Awstralaidd Pendulum.

Ganed ym Mhontypŵl ac mae'n byw yn Llundain ar y hyn o bryd. Mae'n frawd i'r actores Llinor ap Gwynedd, a chwaraewr gîtar fâs y band Apollo 440, Rheinallt ap Gwynedd.[1]

Roedd hefyd yn feirniad ar raglen deledu "Waw Ffactor" yn 2005.[2] Mae wedi chwarae'r gîtar ar gyfer nifer o gerddorion adnabyddus megis Natalie Imbruglia, Norman Cook, Sophie Ellis Bextor a Mylène Farmer. Ymunodd â Pendulum yn 2006. Mae'n seiclwr brwd tebyg i'w frawd a mae'r ddau yn cyd-sylwebu ar raglenni S4C o'r Tour de France.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Rachel Mainwaring (10 Mai 2009). Top 50 single women in Wales. Wales On Sunday.
  2. [1] Archifwyd 2012-10-25 yn y Peiriant Wayback. Liverpool Daily Post 19 Awst 2005
  3.  Le Tour de France ar S4C. S4C (4 Gorffennaf 2017).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]