Percy Stallard

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Percy Stallard
Manylion Personol
Enw Llawn Percy Thornley Stallard
Dyddiad geni 19 Gorffennaf 1909(1909-07-19)
Dyddiad marw 11 Awst 2001 (92 oed)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Gwybodaeth Tîm
Disgyblaeth Ffordd
Rôl Reidiwr & Hyfforddwr
Tîm(au) Amatur
Wolverhampton Wheelers CC
Prif gampau
Flag of the United Kingdom.svg Pencampwr Prydain
Golygwyd ddiwethaf ar:
26 Medi, 2007

Seiclwr rasio Seisnig oedd Percy Thornley Stallard (19 Gorffennaf 1909 - 11 Awst 2001). Roedd yn arloeswr ym maes rasio ffyrdd lle mae'r cystadleuwyr yn cychwyn gyda'i gilydd, a ail-gyflwynwyd ym Mhrydain ganddo yn y 1940au.

Fe'i ganwyd yn Wolverhampton, yn siop feics ei dad ar Broad Street. Daeth Stallard yn aelod o glwb 'Wolverhampton Wheelers Cycling Club' ac yn gystadleuwr brwd mewn rasys, gan gystadlu dros Brydain mewn rasys rhyngwladol yn ystod y 1930au, gan gynnwys y tair Pencampwriaeth Byd canlynol (1933-1935); gorffennodd yn y 12fed, 6ed a'r 12fed safle.[1] Bu hefyd yn hyfforddwr llwyddianus a chapten tîm.

Ers diwedd y 19eg ganrif, roedd awdurdodau rasio beiciau ym Mhrydain wedi gwahardd rasio ar ffyrdd agored, gan ofni buasai'r heddlu yn gwahardd pob math o seiclo fel canlyniad o hynny.[2] Mynnodd y corff llywodraethu, y National Cyclists' Union (NCU), fod pob ras yn cael ei gynnal ar drac, ac yn ddiweddarach ar gylchffyrdd a oedd yn gaeëdig i draffig. Er hyn, dechreuwyd treialon amser mewn gwrthryfel; byddai'r cystadleuwyr yn dechrau fesul un ac yn rasio yn erbyn y cloc, wedi eu gwisgo o'u corryn i'w traed mewn du i gadarnhau cyfrinachedd y rasys.

Daeth pwysau i ddechrau cynnal rasys yn ôl y drefn ar y cyfandir, lle'r oedd y cystadleuwyr yn dechrau gyda'i gilydd mewn tyrfa, yn arbennig gan rhai a ysbrydolwyd gan y Tour de France. Ond daliodd y clybiau at reolau'r NCU, a'u haeriad bod pob ras tebyg i hyn yn cael ei dal ar gylchffyrdd megis Brooklands, Donington Park neu Gwrs mynyddig Snaefell ar Ynys Manaw (gan fod yr ynys yn genedl ar wahân dan awdurdod annibynol, doedd gan heddlu Prydain ddim awdurdod yno). Enillodd Stallard y ras olaf i gael ei chystadlu yn Brooklands, ym 1939.

Pan ddaeth y rhyfel yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gwagiodd y ffyrdd oherwydd dogni petrol. Mynnodd Stallard nad oedd rasys yn dechrau mewn tyrfa yn debygol o ddenu gwrthwynebiad os oedd y ffyrdd bron yn wag. Ar y 7fed o Fehefin 1942, cynnhaliwyd ras o Wolverhampton i Langollen, gan gael caniatad gan bob prif-gwnstabl; noddwyd y ras gan bapur newydd y Wolverhampton Express and Star. Gorffennodd y Ras ym Mharc y Gorllewin gyda 2,000 o wylwyr. Gwaharddwyd pawb a oedd yn ymwneud â'r ras o'r NCU a'r RTTC (y corff a oedd yn rheoli treialon amser). Gwaharddwyd Stallard o'r NCU am ei oes am wrthod ymddangos gerbron pwyllgor o aelodau'r NCU.

Heb unlle i fynd ond eto'n dal i fynnu mai rasys yn dechrau mewn tyrfa oedd dyfodol seiclo, bu Stallard yn flaenllaw yn creu'r corff annibynol a gystadlodd yn erbyn yr NCU, sef y British League of Racing Cyclists. Ffurfiwyd hi ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, gan dynnu sawl grŵp o'r cynghreiriau rhanbarthol a oedd wedi dechrau ffurfio yn barod yng nghanolbarth a gogledd Lloegr. Enillodd Stallard Bencampwriaeth Genedlaethol Ras ffyrdd y BLRC ym 1944,[3] ac fe weithredodd fel trefnydd rasys yn y cyfnod hwnnw, cyn cael ei ddiarddel am feirniadu ansawdd y rasys yn hallt; er hyn, dychwelodd i drefnu ras o Lundain i Gaergybi ym 1951.[1]

Ni ffurfiwyd y British Cycling Federation tan 1959, erbyn hynny roedd yr NCU a'r BLRC wedi cystadlu yn erbyn ei gilydd nes eu bod yn fethdalu.

Gadawodd Stallard seiclo am gyfnod, ond ni ildiodd seiclo yn gyfan gwbl. Cymerodd y llyw yn siop ei dad, a'i chynnal hi hyd ei ymddeoliad yn y 1990au, ac o 1985 ymlaen, trefnodd rasys ar gyfer seiclwyr hen law (Saesneg: Veteran), a oedd dros 40 oed. Unwaith eto, roedd y rasys hyn tu allan i fframwaith seiclo cenedlaethol ac roedd peryg i'r British Cycling Federation gweithredu yn ei erbyn (roedd wedi gwrthod eu medal aur oherwydd y credai eu bod yn ymgnawdoliad o'r NCU). Gwrthododd y bygythiad gan ddatgan: "Beth maen nhw'n mynd i wneud? Fy ngwahardd am fy oes unwaith eto?" (Saesneg: "What are they going to do? Ban me for life all over again?").

Mae'r League of Veteran Racing Cyclists (LVRC) yn cynnal cystadleuaeth sydd wedi ei enwi ar ôl Stallard er coffadwriaeth iddo.

Canlyniadau[golygu]

1933
12fed Pencampwriaeth Ras Ffyrdd y Byd
1934
6ed Pencampwriaeth Ras Ffyrdd y Byd
1935
12fed Pencampwriaeth Ras Ffyrdd y Byd
1939
1af Ras gylchffordd Brooklands, Donington Park
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffyrdd Prydain, NCU
1944
1af Flag of the United Kingdom.svg Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffyrdd Prydain, BLRC


Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Wolverhampton Local History
  2. Ride and Be Damned, Chas Messenger
  3. Percy Stallard Collection