Pentre-llyn-cymmer

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pentre-llyn-cymer)
Neidio i: llywio, chwilio
Pentre-llyn-cymmer: hen gapel wedi cau.

Pentref bychan yng nghornel dde-ddwyreiniol sir Conwy yw Pentre-llyn-cymmer (hefyd Pentrellyncymmer, Pentre Llyn Cymmer ac amrywiadau eraill). Mae yn ardal wledig Uwch Aled, tua tair milltir i'r gogledd o bentref Gerrigydrudion ac mae'n rhan o gymuned Cerrigydrudion. Saif lle mae Afon Brenig yn llifo i Afon Alwen.

Ceir dwy gronfa ddŵr fawr gerllaw, Llyn Brenig ychydig i'r gogledd a Chronfa Alwen i'r gogledd-orllewin. Ceir Canolfan Addysg Awyr-agored yma.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Caer Ddunod yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ar lan Afon Alwen ger Pentre-llyn-cymer.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruConwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.