Pensaernïaeth Romanesg
Oddi ar Wicipedia
Eglwys gadeiriol Pisa
-
- Gweler hefyd Celf Romanesg
Mae pensaernïaeth Romanesg yn arddull pensaernïol a flodeuai yn Ewrop o'r 11eg ganrif hyd at gychwyn pensaernïaeth Gothig tua chanol y 12fed ganrif. Gelwir enghreifftiau o'r arddull yng Nghymru a Lloegr hefyd yn bensaernïaeth Normannaidd.
Mae ei gwreiddiau'n gymysg. Mae'n cyfuno arddulliau Carolingiaidd, Rhufeinaidd a Bysantaidd ac ar ben hynny dylanwadwyd arni gan sawl arddull lleol.
Arddull pensaernïol eglwysig ydyw yn bennaf. Un o'r enghreifftiau mwyaf trawiadol o'r arddull ar y cyfandir yw eglwys gadeiriol Pisa yn yr Eidal.