Penrhyn yr Eidal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun lloeren o'r penrhyn yn y Gwanwyn

Un o dri penrhyn mawr yn Ne Ewrop ydy Penrhyn yr Eidal neu Benrhyn Apennine (neu Penisola Appenninica yn Eidaleg). (Y ddau arall yw Penrhyn Iberia a Phenrhyn y Balcanau). Mae Penrhyn yr Eidal yn ymestyn dros 1000 cilomedr o Ddyffryn Po yn y gogledd i Fôr y Canoldir yn y de. Oherwydd siâp y penrhyn, rhoddir y ffugenw Lo Stivale (Yr Esgid) iddo. Mae tri penrhyn llai o faint yn cyfrannu at y siâp unigryw hwn, sef Calabria, Salento a Gargano.

Mae'r penrhyn i gyd bron yn rhan o Weriniaeth yr Eidal, ar wahan i San Marino a Dinas y Fatican. Yn ogystal, fel arfer ystyrir Sicily a Malta ac ynysoedd bychain eraill megis Palagruža (Croatia), yn ynysoedd oddi ar y penrhyn ac oherwydd hyn maent wedi'u grŵpio'n ddaearyddol gydag ef.

Europe map.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.