Penpont
Pentref fechain yn ardal Dumfries a Galloway, yr Alban yw Penpont. Lleolir dwy filltir i'r gorllewin o Thornhill, ger cydlifiad afonydd y Shinnel Water a'r Scaur Water ym mryniau godre'r Uwchdiroedd deheuol, ac mae poblogaeth o tua 400 o bobl.
Mae Penpont yn nodweddiadol fel lle geni Joseph Thomson, y daearegwr a'r fforydd, enwyd y Thomson's Gazelle ar ei ôl. Mae'r cerflunydd Andy Goldsworthy hefyd yn byw a gweithio yn y pentref ers sawl mlynedd. Gellir gweld ei weithiau ogwmpas y pentref, gan gynnwys strwythr siap mochyn coed ger Fferm Stepends a adeiladwyd ar gfer dathliad y flwyddyn 2000.
Adeiladwyd eglwys y blwyf yn 1867, mewn steil Gothig gyda bwtresi mawrion. Mae hefyd yn cynnwys bwrdd cymun mewn steil Art Nouveau sy'n dyddio o 1923.
Mae nifer o safleoedd o ddiddordeb archeoloegol ger llaw, gan gynnwys caaeri'r Oes Efydd ym mryniau Tynron Doon a Grennan Hill a charnedd hir wrth Capenoch Loch sy'n dyddio o'r ail neu'r drydedd ganrif.
Cynhelir gŵyl "Penpont Gala" yn flynyddol, yn ystod wythnos cyntaf Gorffennaf, mae'r ŵyl yn para wythnos gyfan.