Penmoelallt

Oddi ar Wicipedia
Penmoelallt
Mathgwrthrych daearyddol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd8.03 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.774°N 3.45°W, 51.775528°N 3.425981°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Penmoelallt, Cwm Tâf, Cwm Cynon wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1959 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 8.03 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle. Saif y safle o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'n warchodfa Natur Fforest wedi’i rheoli trwy gytundeb gyda’r Comisiwn Coedwigaeth (bellach: Cyfoeth Naturiol Cymru).

Mae safle Penmoelallt o ddiddordeb arbennig oherwydd ei goetir gymysg o goed ynn a phlanhigion prin eraill e.e. y llwyfen lydanddail, cerddinen Darren Fach (un o'r coed prinnaf yn y byd nas ceir ond ar ddau safle yng Nghymru), cerddinen y graig, bisgwydden deilen fach a’r heboglys caregl (planhigyn anghyffredin gyda’i boblogaeth fyd eang wedi ei gyfyngu i ychydig o safleoedd yn Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a un safle yn Lloegr). Calchfaen Carbonifferaidd yw'r math o garreg yn y warchodfa hon.

Math o safle[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]