Penderyn (Wisgi)
Oddi ar Wicipedia
Wisgi brag sengl Cymreig gwobrwyol yw Penderyn, y wisgi cyntaf ar gael yn fasnachol a wnaed yng Nghymru ers y 19eg ganrif. Cynhyrchwyd y wisgi gan Distyllfa Penderyn (a elwid gynt yn Gwmni Wisgi Cymreig), mae'n wisgi brag sengl gryfder premiwm (46%) a gynhyrchir mewn sawl mynegiant. Mae'n cael ei ddistyllu ym mhentref Penderyn yng Nghwm Cynon, Rhondda Cynon Taf.