Penclawdd

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Penclawdd

Mae Penclawdd (weithiau Pen-clawdd) yn bentref ar benrhyn Gŵyr, de-orllewin Cymru. Fe'i lleolir ger arfordir gogleddol Gŵyr, rhwng Crofty i'r gorllewin a Tre-gŵyr i'r dwyrain, tua 3 milltir i'r de-orllewin o dref Gorseinon.

Saif y pentref ar lan aber afon Llwchwr, yn wynebu ar Lanelli dros y bae. Mae'n enwog am y cocos a gesglir oddi ar y traeth yno.

Ganwyd y cyfansoddwr clasurol Karl Jenkins yn y pentref ar 17 Chwefror, 1944.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Ieithoedd eraill