Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pencampawriaethau'r byd ar gyfer rasio seiclo ffordd yw Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI, a gynhelir yn flynyddol gan yr Union Cycliste Internationale (UCI). Mae'n cynnwys rasys ar gyfer merched a dynion a sawl categori oedran ar gyfer ras ffordd a treial amser unigol, gan gynnwys y canlynol:

Cystadlir pob pencampwriaeth gan dimau cenedlaethol, yn hytrach na timau noddedig fel ddigwyddir yn y Tour de France. Caiff enillydd pob categori'r hawl i wisgo crys enfys wrth gystadlu mewn rasus o'r un categori yn y flwyddyn ganlynol.

Hanes[golygu]

Cynhaliwyd y pencampwriaeth cyntaf ym 1921, ond yr unig ras a gystadlwyd oedd ar gyfer dynion amatur.[1] Cynhaliwyd y bencampwriaeth proffesiynol cyntaf ym mis Gorffennaf 1927 yn Nürburgring, Yr Almaen, lle gipiodd yr Eidalwr Alfredo Binda y deitl proffesiynol, a Jean Aerts o Wlad Belg y deitl amatur. Cystadlwyd pencampwriaeth y merched am y tro cyntaf ym 1958. Ni gyflwynwyd y pencampwriaethau treial amser tan 1994.

Tan 1995, roedd rasys arwahan ar gyfer reidwyr amatur a phroffesiynol, ac ym 1996, cyflwynwyd categori newydd ar gyfer reidwyr odan-23 i gymryd lle'r pencampwriaeth amatr a daeth y ras broffesiynol yn agored i bawb (ac yn ddiweddarach, reidwyr elit yn unig).

Ers 1995, cnhaliwyd y rasys tuag at ddiwedd y tymor rasio Ewropeaidd yn hwyr ym mis Medi, ar ôl y Vuelta a España fel rheol. Cyn hynnu, roedd wastad wedi ei chynnal yn ystod yr haf, yn hwyr ym mis Awst neu ar ddechrau mis Medi (heblaw 1970, pan gynhaliwyd yng nghanol y tymor yn yr haf).

Caiff y pencampwriaethau eu cynnal mewn gwlad gwahanol pob blwyddyn, gyda'r cwrs yn amrywio o un fflat sy'n ffafrio sbrintwyr, neu crws ymdonnog sy'n ffafrio dringwr neu reidiwr cyffredinol. Bydd fel arfer yn cael ei gystadlu ar gylched a cwblheir sawl cylch.

Mae pencampwriaeth y byd a dau o'r Grand Tours (y Giro d'Italia a'r Tour de France) yn ffurfio Coron Driphlyg Seiclo.

Pencampwriaethau[golygu]

Blwyddyn Gwlad Lleoliad
1927 Baner Yr Almaen Yr Almaen Nürburgring
1928 Baner Hwngari Hwngari Budapest
1929 Baner Y Swistir Y Swistir Zürich
1930 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Liège
1931 Baner Denmarc Denmarc Copenhagen
1932 Baner Yr Eidal Yr Eidal Rome
1933 Baner Ffrainc Ffrainc Montlhéry
1934 Baner Yr Almaen Yr Almaen Leipzig
1935 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Floreffe
1936 Baner Y Swistir Y Swistir Berne
1937 Baner Denmarc Denmarc Copenhagen
1938 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Valkenburg
dim ras rhwng 1939 a 1945
oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1946 Baner Y Swistir Y Swistir Zürich
1947 Baner Ffrainc Ffrainc Reims
1948 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Valkenburg
1949 Baner Denmarc Denmarc Copenhagen
1950 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Moorslede
1951 Baner Yr Eidal Yr Eidal Varese
1952 Baner Lwcsembwrg Lwcsembwrg Lwcsembwrg
1953 Baner Y Swistir Y Swistir Lugano
1954 Baner Gorllewin yr Almaen Gorllewin yr Almaen Solingen
1955 Baner Yr Eidal Yr Eidal Frascati
1956 Baner Denmarc Denmarc Copenhagen
1957 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Waregem
1958 Baner Ffrainc Ffrainc Reims
1959 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Zandvoort
1960 Baner Dwyrain yr Almaen Dwyrain yr Almaen Karl-Marx-Stadt
Blwyddyn Gwlad Lleoliad
1961 Baner Y Swistir Y Swistir Berne
1962 Baner Yr Eidal Yr Eidal Salò di Garda
1963 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Ronse
1964 Baner Ffrainc Ffrainc Sallanches
1965 Baner Sbaen Sbaen San Sebastián
1966 Baner Gorllewin yr Almaen Gorllewin yr Almaen Nürburgring
1967 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Heerlen
1968 Baner Yr Eidal Yr Eidal Imola
1969 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Zolder
1970 Baner Prydain Fawr Prydain Fawr Leicester
1971 Baner Y Swistir Y Swistir Mendrisio
1972 Baner Ffrainc Ffrainc Gap
1973 Baner Sbaen Sbaen Barcelona
1974 Baner Canada Canada Montreal
1975 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Yvoir
1976 Baner Yr Eidal Yr Eidal Ostuni
1977 Baner Venezuela Venezuela San Cristóbal
1978 Baner Gorllewin yr Almaen Gorllewin yr Almaen Nürburgring
1979 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Valkenburg
1980 Baner Ffrainc Ffrainc Sallanches
1981 Baner Tsiecoslofacia Tsiecoslofacia Prague
1982 Baner Prydain Fawr Prydain Fawr Goodwood
1983 Baner Y Swistir Y Swistir Altenrhein
1984 Baner Sbaen Sbaen Barcelona
1985 Baner Yr Eidal Yr Eidal Giavera del Montello
1986 Baner UDA UDA Colorado Springs
1987 Baner Awstria Awstria Villach
1988 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Ronse
Blwyddyn Gwlad Lleoliad
1989 Baner Ffrainc Ffrainc Chambéry
1990 Baner Japan Japan Utsunomiya
1991 Baner Yr Almaen Yr Almaen Stuttgart
1992 Baner Sbaen Sbaen Benidorm
1993 Baner Norwy Norwy Oslo
1994 Baner Yr Eidal Yr Eidal Agrigento
1995 Baner Colombia Colombia Duitama
1996 Baner Y Swistir Y Swistir Lugano
1997 Baner Sbaen Sbaen San Sebastián
1998 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Valkenburg
1999 Baner Yr Eidal Yr Eidal Verona
2000 Baner Ffrainc Ffrainc Plouay
2001 Baner Portiwgal Portiwgal Lisbon
2002 Baner Gwlad Belg Gwlad Belg Zolder a Hasselt
2003 Baner Canada Canada Hamilton
2004 Baner Yr Eidal Yr Eidal Verona
2005 Baner Sbaen Sbaen Madrid
2006 Baner Awstria Awstria Salzburg
2007 Baner Yr Almaen Yr Almaen Stuttgart
2008 Baner Yr Eidal Yr Eidal Varese
2009 Baner Y Swistir Y Swistir Mendrisio
2010 Baner Awstralia Awstralia Melbourne a Geelong
2011 Baner Denmarc Denmarc Copenhagen
2012 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Limburg
2013 Baner Yr Eidal Yr Eidal Florence
2014 Baner Sbaen Sbaen Ponferrada
2015 Baner UDA UDA Richmond

Cyfeiriadau[golygu]